Caergybi: Carcharu stelciwr ‘obsesiynol’ wnaeth gyhoeddi llun preifat o ddynes
Mae stelciwr wnaeth rannu llun preifat o'i ddioddefwr ar-lein ar ôl cwrdd â hi yng Nghaergybi wedi cael ei garcharu.
Ymddangosodd Ian Paul Atkinson o Clwyd Terrace, New Brighton, Wallasey, yn Llys Ynadon Caernarfon ar 12 Awst.
Plediodd yn euog i stelcian, rhannu lluniau preifat heb ganiatâd, a bygwth rhannu lluniau preifat.
Roedd y dyn 52 oed wedi bod mewn perthynas tymor byr hefo'r dioddefwr, cyn dechrau cysylltu â hi yn erbyn ei dymuniad. Byddai'n ei ffonio a'i thecstio'n rheolaidd.
Ar ôl cytuno i'w gyfarfod mewn tafarn yng Nghaergybi ar 19 Gorffennaf, fe wnaeth fygwth rhannu lluniau preifat o’r ddynes ar-lein os nad oedd hi'n parhau prynu diodydd iddo fo.
Gadawodd y ddynes ond roedd yn gallu clywed Atkinson yn gweiddi ei henw.
Fe wnaeth ei ffonio hi eto'r noson honno, ond er gwaethaf gofyn iddo fo adael llonydd iddi, y diwrnod canlynol, fe wnaeth ddeffro a gweld ei bod wedi methu 30 o alwadau ac wedi derbyn sawl neges llais ymosodol gan Atkinson, gan gynnwys un yn bygwth llosgi ei thŷ i lawr.
Y noson honno, anfonodd luniau preifat o'r dioddefwr dros negeseuon cyfryngau cymdeithasol hefyd.
‘Perygl gwirioneddol’
Cafodd ei garcharu am 26 wythnos a chafodd orchymyn atal a barhaodd am bum mlynedd.
Dywedodd y Rhingyll Dylan Thomas: "Dwi'n cymeradwyo'r dioddefwr am ei dewrder wrth ddod ymlaen yn dilyn ymddygiad obsesiynol Atkinson.
"Mae stelcian yn drosedd ddifrifol sy'n gallu gwaethygu'n gyflym a rhoi bywydau dioddefwyr mewn perygl gwirioneddol.
"'Da ni'n cymryd adroddiadau o stelcian o ddifrif a byddwn yn eich helpu drwy gydol unrhyw ymchwiliad.
"Os 'da chi'n profi stelcian, peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun, riportiwch o."
Os 'da chi wedi dioddef stelcio, cysylltwch hefo'r heddlu ar-lein neu drwy ffonio 101, neu fel arall drwy asiantaeth gymorth.