Newyddion S4C

Llai o samplau o gocên wedi’u cofnodi yn ystod y cyfnod clo

08/07/2021
Clwb nos
Clwb nos

Cafodd llai o samplau o gyffuriau caled megis cocên eu cofnodi gan wasanaeth profi cyffuriau yng Nghymru yn ystod y cyfnod clo, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl arbenigwyr, mae hyn yn debygol o fod o ganlyniad i’r ffaith fod lleoliadau’r economi nos wedi bod ar gau o ganlyniad i gyfyngiadau’r pandemig.

Mewn blwyddyn arferol, byddai lleoliadau fel clybiau nos yn cyflwyno samplau cyffuriau i’r gwasanaeth brofi yng Nghymru, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi bod ar gau ers Mawrth 2020.

Nid cocên oedd y sylwedd seicoweithredol a gafodd ei nodi amlaf, am y tro cyntaf ers i brosiect WEDINOS gael ei lansio yn 2013.

Ond, yn ôl yr adroddiad, roedd cynnydd yn y samplau cocên a gafodd eu cyflwyno yn ystod cyfnodau lle’r oedd y cyfyngiadau iechyd cyhoeddus wedi eu llacio.

Mae’r adroddiad, a gafodd ei gyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, hefyd yn tynnu sylw at gynnydd sylweddol yn y nifer o dawelyddion heb fod ar bresgripsiwn sydd wedi eu cyflwyno i’r gwasanaeth brofi yng Nghymru.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod prynu bensodiasepin ar-lein yn bennaf, heb fod ar bresgripsiwn a heb eu rheoleiddio, yn bryder cynyddol.

Mae bensodiasepin yn fath o gyffur sy’n aml yn cael ei ddefnyddio i drin gorbryder ac insomnia.

Roedd adroddiad mwyaf diweddar y Ganolfan Fonitro Ewropeaidd ar gyfer Cyffuriau a Chaethiwed Cyffuriau yn nodi’r nifer uchaf a chyfansymiau uchaf o ataliadau cocên, a chynnydd mewn purdeb cocên flwyddyn ar flwyddyn dros y ddegawd ddiwethaf.

Ni wnaeth Arolwg Trosedd Cymru a Lloegr 2019/20 adrodd am unrhyw newid yn y defnydd o gocên yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020 o’i gymharu â’r flwyddyn gynt.

Dywedodd Josie Smith, Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae 2020-21 wedi gweld cynnydd yng nghyfran y samplau bensodiasepin ac, oherwydd bod tafarndai, bariau a chlybiau nos wedi'u cau fel rhan o gyfyngiadau pandemig COVID-19, gostyngiad cymharol o ran cyflwyno samplau cymunedol o gyffuriau gan gynnwys cocên ac ysgogyddion eraill”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.