Sioe Sir Benfro: 'Codi pris mynediad' yn 'rhesymol'
Wrth i Sioe Sir Benfro groesawu miloedd dros gyfnod o ddeuddydd o ddydd Mercher ymlaen, mae'r pris mynediad yn parhau yn "rhesymol" er ei fod wedi cynyddu o'r llynedd yn ôl un o ymddiriedolwyr y sioe.
Bydd cost mynediad i'r sioe yn cynyddu o £2 o'i gymharu â'r llynedd, ond dywedodd Delme Harries fod hyn wedi gorfod digwydd yn unol â'r argyfwng costau byw.
"Ni 'di gorfod rhoi'r pris mynediad lan eleni ar y dydd o £2 i drial helpu codi tamed bach mwy o arian mewn i'r sioe ond ma' fe dal yn rhad ch'mod, £17 am ddiwrnod llawn o wahanol bethe," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ma'n bwysig iawn cadw'r pris yn deidi i bobl gallu fforddio dod ond ar yr un pryd, mae coste cynnal y sioe yn cynyddu bob blwyddyn hefyd.
"So ma' fe'n vicious circle rili achos s'mo ni isie pobl gorfod talu gormod ond wedyn ni'n gorfod trial cyfro ein coste ein hunan hefyd."
'Eitha falch'
Bydd y sioe yn gymharol debyg i'r rhai sydd wedi cael eu cynnal dros y ddwy flynedd ddiwethaf ond bydd dofednod yn dychwelyd eleni, a hynny wedi i'r cystadlaethau gael eu hatal yn y blynyddoedd diwethaf yn sgil y ffliw adar.
Er y pryderon gyda'r diciâu, neu TB, mae Mr Harries yn falch o weld nad yw hyn wedi effeithio yn ormodol ar nifer y cystadleuwyr eleni.
"Ma'r ochr da byw tamed bach lawr o llynedd achos TB rili 'da ni lawr yn Sir Benfro - ma' hwnna yn effeithio ar lot o ffermydd sydd wedi bod yn ffyddlon iawn i'r Sioe dros y blynyddoedd," meddai.
"Ond ni dim ond lawr single numbers rili, ma' biti 10 yn llai na llynedd felly ni'n eitha falch o ystyried y sefyllfa ni ynddi gyda TB.
"Ma' TB yn neud lot o probleme i ni gyda'r nifer o entries sy'n dod mewn i'r gwartheg ac mae'n ddiflas hefyd i'r bobl sydd ishe dod a sydd wedi bod yn dod am flynyddoedd a methu dod nawr.
"Yr ofn sydd 'da ni yw ar ôl nhw ffaelu dod am blynydde, falle bydden nhw byth isie dod nôl 'to.
"Ond mae'n rhaid cadw'n bositif a ma'r niferoedd wedi cadw lan gyda beth oedden nhw llynedd so ni'n falch iawn o hwnna."
'Rhywbeth yn ôl'
Ychwanegodd Mr Harries fod gan sioeau bach bwysigrwydd mawr yn eu cymunedau lleol a gwledig.
"Mae'r sioeau lleol, y sioeau bach un dydd yn bwysig iawn i'r cymunede lleol i trial denu pobl ifanc i mewn i helpu gyda'r stiwardio a phethe a rhoi rhywbeth yn ôl i'r cymunede lleol," meddai.
"Ma' cyfrifoldeb arnom ni i hyrwyddo'r gwaith da ma' ffermwyr yn neud a'r ardaloedd gwledig ond mae'r sioeau bach yn bwysig iawn achos ma'n rhoi'r stepping stone."
Digwyddiad deuddydd ydy'r sioe ers 2022, yn hytrach na’r tridiau fel y bu hi yn ystod blynyddoedd cyn hynny.
Yn ôl Mr Harries, mae'r newid wedi bod yn gadarnhaol i'r sioe.
"Dwi'n meddwl ar hyn o bryd mae'r ddou ddiwrnod yn gweithio i ni yma yn Sioe Sir Benfro a hefyd o ran y stondine, ma' lot o goste staff a phethe a dod a phopeth i'r Sioe so ma' lot o coste arnyn nhw hefyd," meddai.
"Sai'n meddwl ewn ni nôl 'to i sioe tri diwrnod ond ni'n adeiladu yn ôl yn slow bach ers y pandemig."