Newyddion S4C

Disgybl mewn ysgol yn Rhondda Cynon Taf wedi marw yn sydyn dros y penwythnos

13/08/2024
rhydywaun.png

Mae ysgol uwchradd yn Rhondda Cynon Taf wedi cadarnhau fod disgybl blwyddyn saith yn yr ysgol wedi marw yn sydyn dros y penwythnos. 

Mewn datganiad dywedodd Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun fod ei meddyliau gyda theulu’r disgybl.

Ychwanegodd y datganiad y bydd yr ysgol ar agor ddydd Mercher ac Iau i gynnig cymorth i ddisgyblion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.