‘Doedd neb yn gwybod beth oedd yn digwydd i fi’: Menyw yn byw gyda chyflwr sy'n parlysu'r stumog
‘Doedd neb yn gwybod beth oedd yn digwydd i fi’: Menyw yn byw gyda chyflwr sy'n parlysu'r stumog
Rhybudd: mae’r erthygl ganlynol yn cynnwys gwybodaeth a allai beri gofid.
Yn dair ar hugain oed, mae Luned Davies yn byw gyda’r cyflwr gastroparesis.
Dyma gyflwr lle mae’r stumog wedi’i pharlysu ac yn methu treulio bwyd yn iawn.
Dechreuodd ei symptomau nôl ym mis Awst 2020 a phan aeth at y doctor am y tro cyntaf, cafodd ei chyfeirio at arbenigwr anhwylderau bwyta.
Ond yn ôl Luned, o bentref Banwen ger Castell-nedd, doedd neb yn ei "chymryd hi o ddifri."
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gofyn am ymateb.
"O’n i’n colli pwysau, o’n i jest ddim mo'yn bwyd. O’n i’n teimlo’n llawn trwy’r amser. Ma rhywbeth yn bod fan hyn," meddai Luned.
"Es i nôl ac ymlaen i’r doctor a o’n i’n cal blood tests a pethe ond o’n nhw ddim yn cymryd fi’n serious.
"O’n nhw’n gweud eating disorder yw hwn."
Fe aeth Luned at ddoctor preifat hefyd i dderbyn mwy o brofion.
Erbyn mis Awst 2022, a hithau wedi colli cymaint o bwysau, roedd pawb yn ofni’r gwaethaf.
"O’n i ffili cerdded, o’n i ffili edrych ar ol fy hunain. Odd rhaid i mam fynd a fi mewn i’r cawod, codi fi off y toilet.
"O ti’n gallu gweld pob asgwrn, popeth a odd pobl yn meddwl o’n i moyn bod fel na.
"Dodd neb yn gwybod be odd yn digwydd achos o’ nhw’n gallu gweld fi’n byta, ond wedyn o’n i’n bod yn sick ar ol ‘ny.
"Wedon nhw so ni’n meddwl ti mynd i fyw trwy hwn."
'Y teulu yn dioddef'
Dywedodd Luned mai’r peth anoddaf oedd gweld y straen ar ei theulu.
"I fi y peth gwaethaf yw gweld Mam a Dad, a’r teulu yn dioddef.
"A gweld yr effaith fi ‘di cael arnyn nhw.’
Fe gymerodd hyd at dair blynedd iddi hi dderbyn diagnosis o’r cyflwr.
Roedd yn anodd i Luned ddelio gyda phobl yn cwestiynu ei symptomau, meddai.
"Odd pobl yn dweud wrthai, sdim byd yn bod ‘da ti, mai e i gyd yn dy ben di’. Odd pobl yn meddwl o’n i mo'yn colli pwysau ond o’n i byth mo'yn bod fel hyn.
"Bydden i byth mo'yn unrhywun i fod fel hyn."
'Dim gwella'
Gall symptomau amrywio o golli pwysau, chwydu a theimlo’n llawn a does dim gwellhad.
Yn ôl y deitegydd Gwawr James, mae’n rhaid i bobl sy’n byw gyda’r cyflwr, addasu eu deiet.
“Unwaith mae nerfau’r stwmog wedi cael eu niweidio, does dim gwella iddyn nhw, Felly ma na lot o bethau i wneud efo deiet.
"Yn draddodiadol, ‘da ni’n dweud bod angen bwyta tri pryd mawr y dydd – brecwast, cinio, swper.
"Yn fan hyn, fysa ni falle’n awgrymu 4 i 6 pryd llai fel and oes gormod o bwysau ar y stwmog ar yr un pryd."
Erbyn hyn, mae cyfuniad o dabledi yn helpu Luned i reoli ei symptomau.
"Fi mewn poen, trwy’r dydd pob dydd ond ma rhaid i fi gadw mynd ymlaen.
"Ma’ ‘da fi bywyd, ma isie fi ‘neud y mwyaf am fy mywyd i, ma isie fi ‘neud pethe neu byddai yn gwely trwy’r dydd, bob dydd."