Tom Lockyer yn dychwelyd i'r maes ymarfer fisoedd ar ôl dioddef ataliad ar y galon
Mae chwaraewr pêl-droed Cymru, Tom Lockyer, wedi dychwelyd i’r maes ymarfer fisoedd ar ôl dioddef ataliad ar y galon mewn gêm.
Fe wnaeth Lockyer, 29 oed, ddioddef ataliad ar y galon wrth chwarae dros ei glwb Luton Town, mewn gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr yn erbyn Bournemouth ar 16 Rhagfyr 2023.
Fe wnaeth chwaraewyr y ddau dîm adael y cae hanner ffordd trwy’r ail hanner wrth i Lockyer dderbyn triniaeth feddygol.
Cafodd y gêm ei gohirio ar ôl iddo gael ei gario i ffwrdd o’r cae gyda’r dorf i gyd yn ei gymeradwyo.
Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach fod ei galon wedi stopio, ar ôl iddo lewygu ar y cae.
Ar ôl cael ei gludo i'r ysbyty, fe gafodd dyais arbennig ei ffitio yn ei galon fel rhan o'i driniaeth.
Mewn neges gafodd ei rannu gan Luton Town ddydd Mawrth, mae’r clwb wedi rhyddhau lluniau o Locker ar y cae ymarfer, wrth iddo gychwyn ar “gyfnod nesaf ei gynllun adferiad”.
Dywedwyd ei fod wedi derbyn arweiniad gan ymgynghorwyr blaenllaw yn Llundain ac Amsterdam, yn ymweld â chlinig arbenigol.
Nid oes cadarnhad os byddai’n dychwelyd i chwarae, ond mae’r clwb wedi dweud ei fod wedi dychwelyd i’r cae ymarfer.
Inline Tweet: https://twitter.com/LutonTown/status/1823374007413960758
Mewn datganiad gan y clwb, dywedodd llefarydd: “Rydym mor falch i rannu gyda’n cefnogwyr a phawb o gwmpas y byd sydd wedi anfon eu cefnogaeth atom, fod ein capten, Tom Lockyer, heddiw wedi dychwelyd i The Brache i ddechrau cam nesaf ei adferiad.
“Am y tro, bydd Tom yn gweithio'n unigol yn The Brache, ond bydd ei holl gyd-chwaraewyr, y rheolwr Rob Edwards a'r staff hyfforddi yn croesawu ei bresenoldeb o amgylch y maes hyfforddi.
“Wrth barhau â’i daith adferiad, bydd Tom yn parhau â’i waith gyda Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) i ledaenu pwysigrwydd CPR a sut i ddefnyddio diffibriliwr, a bydd yn canolbwyntio’n llawn ar gam nesaf yn ei adferiad.
“Gofynnwn iddo gael caniatâd i wneud hyn ar ei gyflymder ei hun, yn breifat, er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddo’i hun yn y pen draw o gwblhau camau nesaf ei raglen adferiad.”
Yn gynharach eleni, roedd Lockyer wedi dweud ei fod yn ‘yn derbyn’ pe byddai’n gorfod ymddeol o’r gamp, ond yn dweud y byddai’n ‘caru dod nôl i chwarae pêl-droed’.
Llun: CPD Luton Town