Newyddion S4C

‘Mae bywyd rhy fyr’: Cyn-chwaraewr rygbi Cymru i hyfforddi’r gamp yn Tsieina

13/08/2024
Teleri

Mae un o gyn-chwaraewyr tîm rygbi Cymru wedi derbyn gwahoddiad i gael chwarae a hyfforddi’r gamp yn Tsieina.

Mae Teleri Wyn Davies, 27 oed, o’r Bala, wedi bod yn byw yn y Groeslon ar gyrion Caernarfon ers pum mlynedd, ond mae hi ar fin symud i Shenzen yn ne-ddwyrain Tsieina, sef dinas gyda phoblogaeth o 17.5 miliwn sy’n cysylltu Hong Kong â'r tir mawr.

Dywedodd Teleri wrth wefan Newyddion S4C bod cael parhau ei gyrfa rygbi yn nhrydedd ddinas fwyaf Tsieina yn “gyfle i weld bywyd o bersbectif hollol wahanol”. 

Mae hi hefyd yn dweud y byddai ei phenderfyniad wedi cael cefnogaeth ei thad, Bryan ‘Yogi’ Davies, a fu farw yn 56 oed - chwe blynedd ar ôl iddo ddioddef anafiadau difrifol mewn gêm rygbi yn Ebrill 2007, gan ei adael wedi ei barlysu o’i wddf i lawr.

“Dw i’n meddwl ‘sa fo’n falch iawn ohona i am gymryd y risg,” meddai Teleri.

“Ond mwy na dim, dw i’n meddwl be’ ydi o ydi pan o’n i yn fy arddegau a nes i ofyn i Dad, ‘Os ‘sa ti’n cael cyfle i fyw bywyd normal unwaith eto ar ôl y ddamwain, be 'sa ti’n neud?’ nath o ateb yn dweud 'sa fo'n treulio fo'n chwarae rygbi.

“O’n i methu dalld pam ‘sa fo’n deud hynna, achos dyna be laddodd o’n diwedd. Ond o'dd o’n deud, 'Dyna o'n i'n mwynhau 'neud.' O'dd o fel bod o'n byw ar gyfer rygbi, dyna oedd ei bethau fo. Felly, o’r diwrnod hwnnw, dw i 'di bod yn meddwl, os 'di Dad methu neud o, na i 'neud o drosda fo.”

‘Cyfle i dyfu fel person’

Dywedodd Teleri, sydd wedi chwarae i dimau Caernarfon, Rygbi Gogledd Cymru a’r Sale Sharks yn ogystal â Chymru, ei bod hi wedi cael y cynnig y llynedd.

Daeth yn dilyn ymweliad â’r Iseldiroedd, lle’r oedd hi wedi bod yn chwarae mewn twrnamaint elusennol. 

Bryd hynny, nid oedd ganddi ddiddordeb yn y cynnig.

Ond fisoedd yn ddiweddarach, fe wnaeth ail gynnig ei hysgogi i newid ei meddwl a "mynd amdani". 

“Mae’r ddwy flynedd diwethaf ‘di bod yn flynyddoedd reit galed - mae ‘na lot o bethau personol ‘di digwydd yn fy mywyd lle dw i ‘di sylweddoli fedri di ddim byw i bobl eraill,” meddai. 

“Dw i’n teimlo bo' fi mewn sefyllfa mewn bywyd lle dw i’n mynd i fy ngwaith a dod adra.”

Ychwanegodd: “Fedri di ddim gadael i neb arall fod yn gyfrifol am dy fywyd di a gwneud penderfyniadau drosda ti.”

Fe fydd Teleri yn symud i Shenzen ddydd Gwener i weithio fel hyfforddwraig i dîm Shenzen Pirates, gan chwarae rygbi i’r Hong Kong Scottish.

Yn ogystal â dysgu am y byd rygbi yn y Dwyrain Pell, mae hi'n edrych ymlaen at gael profi bywyd mewn gwlad newydd.

Image
Teleri Davies a'i thad
Teleri gyda'i thad Bryan ‘Yogi’ Davies

“Dw i ‘di cyrraedd pwynt mewn bywyd lle mae ‘na dân yn fy mol i isho mynd i wneud wbath, ac o’n i’n teimlo bod hwn yn gyfle i mi fynd i weld 'chydig o’r byd, cael profiadau newydd, dod ar draws diwylliant gwahanol a chael cyfle i ddysgu iaith newydd,” meddai.

“Dw i’n edrych ymlaen, ond dw i’n teimlo’n reit nerfus - the fear of the unknown.

“Dw i’n hogan o’r Bala yn mynd allan i’r drydedd ddinas fwyaf yn Tsieina. Mae’n mynd i fod yn agoriad llygad ac yn fyd hollol wahanol i be dw i ‘di arfer efo.

“Ond mae bywyd yn rhy fyr, mae’n rhaid cael y profiadau ‘ma - mae’r profiadau ‘ma yn mowldio ti, a heb y profiadau ‘ma ti ddim am dyfu.

“Dw i’n gweld hwn fel cyfle i fi dyfu fel person, a gweld bywyd o bersbectif hollol wahanol.”

Er ei bod wedi arwyddo cytundeb blwyddyn, nid yw Teleri’n poeni’n ormodol am y terfyn amser.

“Os bydd cyfleoedd eraill yn codi, dw i mewn sefyllfa i gymryd y cyfleoedd yna. Ond os dw i’n mynd yna a phenderfynu bod hwn ddim i fi, dw i ‘di rhoi go arni.

“Ma’ adra bob tro am fod yna, felly os dw i’n cyrraedd y pwynt yna fedra i wastad dod nôl i Gymru.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.