Newyddion S4C

Pryder y gallai Neuadd Dewi Sant fod ar gau am fisoedd yn hirach na'r disgwyl

13/08/2024
Neuadd dewi Sant (Eli Whales)

Fe allai Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd fod ar gau am fisoedd yn hirach na’r disgwyl.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i brif leoliad cerddoriaeth glasurol y ddinas aros ar gau tan 2025.

Mae angen to newydd ar yr adeilad ar ôl i banelau concrit diffygiol RAAC gael eu darganfod yno.

Ond hyd yma nid yw caniatâd adeilad rhestredig sydd ei angen cyn y gellir gwneud unrhyw waith wedi’i sicrhau ac mae'n bosib na fydd y neuadd yn ailagor tan 2026.

Dywedodd Cyngor Caerdydd ei fod ar ddeall bod Academy Music Group (AMG), a lofnododd gytundeb ar gyfer prydles i redeg Neuadd Dewi Sant ym mis Ebrill 2024, yn paratoi cais.

Yng nghyfarfod diweddaraf y cyngor llawn, gofynnodd arweinydd grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol, y Cynghorydd Rodney Berman, am ddiweddariad ar y gwaith ar yr adeilad.

'Ymestyn y broses'

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, aelod cabinet y cyngor dros ddiwylliant, chwaraeon a pharciau, fod rhestru’r adeilad wedi “ymestyn y broses yn sylweddol” cyn gallu ei atgyweirio ac fe allai'r gwaith gymryd 18 mis i’w gwblhau unwaith y bydd pob caniatâd cynllunio wedi’i sicrhau.

Daeth archwiliad o Neuadd Dewi Sant y llynedd i'r casgliad y byddai angen newid y to yn gyfan gwbl oherwydd cyflwr y paneli yn y nenfwd.

Daethpwyd ag arbenigwyr i mewn i edrych ar Neuadd Dewi Sant ar ôl i ganllawiau iechyd a diogelwch newid ar goncrit RAAC.

Mae'r deunydd yn fath o goncrit ysgafn sy'n dueddol o ddirywio'n sydyn wrth iddo heneiddio.

Dywedodd y Cynghorydd Berman ei fod yn siomedig i glywed bod ail-agor Neuadd Dewi Sant yn hirach na'r disgwyl.

Dywedodd: “Ers cau ym mis Medi 2023 nid ydym hyd yn oed wedi gweld unrhyw waith yn cael ei wneud i ddechrau trwsio to Neuadd Dewi Sant.

“Mae hyn yn creu oedi sylweddol ac yn gorfodi canslo digwyddiadau diwylliannol pwysig fel cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd a oedd i fod i gael ei chynnal yn 2025.

“Mae’n gwbl amlwg bellach y bydd y dyddiad ailagor gwreiddiol yn cael ei wthio’n ôl yn sylweddol, gan effeithio ar enw da Caerdydd fel canolbwynt diwylliannol Cymru.

“Faint o amser fydd yn rhaid i bobl Caerdydd aros nes eu bod yn gallu mynychu digwyddiadau yn y neuadd yn ddiogel eto?”

Mewn cyfarfod o bwyllgor llywodraethu ac archwilio Cyngor Caerdydd a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf, dywedodd uwch swyddog yn y cyngor nad oedd unrhyw bryderon am amseriad y gwaith atgyweirio yn Neuadd Dewi Sant ar ôl i’r Cynghorydd Berman godi’r un mater o ddiffyg gwaith atgyweirio yno.

Mewn datganiad diweddar, dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke: “Mae'r cyngor yn deall bod AMG wedi cwblhau ei arolwg ac yn paratoi cais ar gyfer y gwaith.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.