Newyddion S4C

'Ymosodiad seibr' yn amharu ar sgwrs Trump a Musk

Trump a Musk

Fe olygodd problemau technegol bod sgwrs Donald Trump gyda'r biliwnydd Elon Musk ar blatfform X dros 40 munud yn hwyr yn dechrau.

Cafodd nifer drafferthion i gael mynediad i'r wefan. Mae Musk wedi dweud mai "ymosodiad seibr" oedd wrth wraidd y problemau technegol.

Er mai cyfweliad oedd hwn i fod fe ofynnodd Musk, sydd yn gefnogwr o Trump, nifer o gwestiynau cyfeillgar a chafodd Trump ddim ei herio gan rhai o'i honiadau

Daw'r sgwrs ar adeg pan mae Trump yn ceisio cael hwb i'w ymgyrch etholiadol.

Ers i Kamala Harris gamu i'r ras mae yna ddarogan bod y ddau ymgeisydd yn agos.

Ond mae Elon Musk yn ddyn dylanwadol o fewn y byd gwleidyddol, gyda mwy na 190 miliwn o ddilynwyr ar ei wefan cymdeithasol X. Mae'n aml yn ymwneud gyda phynciau gwleidyddol dadleuol.

Yn ystod y drafodaeth fe gafodd ystod o bynciau eu trafod, gan gynnwys yr ymgais aflwyddiannus i ladd Trump fis diwethaf. Fe wnaeth Donald Trump ganmol arweinyddion Rwsia, China a Gogledd Korea. Dywedodd hefyd ei fod eisiau cau'r adran addysg, gyda'r cyfrifoldeb yn cael ei roi i daleithiau yn unigol.

Llun: Wochit

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.