Person wedi marw a miloedd yn ffoi rhag tanau gwyllt yn Athen
Mae o leiaf un person wedi marw a miloedd o drigolion wedi gorfod gadael eu cartrefi yn sgil tanau gwyllt yn Athen, Gwlad Groeg.
Fe ddechreuodd y tân brynhawn Sul tua 35km i'r gogledd-ddwyrain o Athen, gan losgi sawl adeilad ac anfon blanced o fwg dros ganol y brifddinas.
Ddydd Llun, fe gafodd y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd eu gorfodi i adael eu cartrefi a'u busnesau wrth i fflamau gyrraedd uchder o dros 80 troedfedd.
Mae lledaeniad cyflym y tân wedi cael ei waethygu gan y tywydd poeth a gwyntog, yn ogystal â chonau pinwydd sy'n llosgi yn disgyn o goed.
Roedd mwy na 700 o ddiffoddwyr tân, gyda chefnogaeth 27 o dimau tanau gwyllt arbennig, a'r lluoedd arfog yn brwydro yn erbyn y fflamau nos Lun.
Cafodd tua 190 o gerbydau, 17 o awyrennau gollwng dŵr ac 16 hofrennydd hefyd eu hanfon i'r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio.
'Peryglus'
Daw'r tân yn dilyn cyfnod eithriadol o boeth yng Ngwlad Groeg, gyda Mehefin a Gorffennaf y misoedd poethaf a gofnodwyd erioed.
Mae dechrau cynnar y tymor tân eleni wedi rhoi straen ar lu diffodd tân Gwlad Groeg.
“Mae diffoddwyr tân wedi bod yn gweithio'n ddiwyd ers misoedd,” meddai Nikos Lavranos, pennaeth prif undeb diffoddwyr tân Gwlad Groeg.
Dywedodd y Gweinidog Argyfwng Hinsawdd ac Amddiffyn Sifil, Vassilis Kikilias, yn gynharach ddydd Llun ei fod yn “dân eithriadol o beryglus, yr ydym wedi bod yn ei ymladd am fwy nag 20 awr o dan amgylchiadau dramatig”.
Llun: Wochit