Darn o gelf newydd gan Banksy wedi ei ddinistrio yn Llundain
Mae darn o gelf newydd gafodd ei ddadorchuddio gan yr artist Banksy wedi cael ei ddinistrio yn ne-ddwyrain Llundain.
Cafodd y llun, sy'n darlunio rhino ar gefn Nissan Micra gyda chôn traffig ar ei ben, ei ddinistrio gan ddyn yn gwisgo balaclafa am tua 19:45 nos Lun.
Dyma'r wythfed darn newydd o gelf gan Banksy i ymddangos mewn cyfres ar thema anifeiliaid yn Llundain o fewn wyth diwrnod.
Daw’r digwyddiad ddiwrnod ar ôl i Banksy baentio piranhas yn nofio ar focs gwarchod Heddlu Dinas Llundain, a gafodd ei weld am y tro cyntaf fore Sul.
Dywedodd Corfforaeth Dinas Llundain ddydd Llun fod y darn o gelf wedi cael ei symud i "leoliad diogel".
Dywedodd llefarydd ar ran y gorfforaeth: “Rydym wedi symud y gwaith celf i Iard Guildhall er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei warchod yn iawn ac yn agored i’r cyhoedd ei weld yn ddiogel. Bydd cartref parhaol i'r darn yn cael ei benderfynu maes o law."
Ar 5 Awst, fe ymddangosodd gafr ar ochr adeilad ger Pont Kew, ac yna dau eliffant ar ochr tŷ yn Chelsea ar 6 Awst.
Celf goll
Ddydd Mercher, fe ymddangosodd tri mwnci ar bont yn Brick Lane.
Yna, ddydd Iau, fe wnaeth blaidd yn udo ymddangos ar ddysgl loeren ar do garej yn Peckham.
Ond ychydig oriau'n ddiweddarach, fe gafodd y lloeren ei thynnu i lawr gan ddynion a'i gario i ffwrdd.
Dywedodd tîm gwasg Banksy nad yw'r artist yn gysylltiedig nac yn cymeradwyo lladrad y darn celf, ac nid ydyn nhw'n gwybod lle mae'r lloeren ar hyn o bryd.
Ddydd Gwener, fe wnaeth trigolion Walthamstow ddod o hyd i ddau belican yn pysgota uwchben siop bysgod.
A dydd Sadwrn, fe wnaeth cath gyda chynffon ar i fyny yn ymestyn ei chorff ymddangos ar hysbysfwrdd yn Cricklewood.
Fe wnaeth torf fŵian wrth i'r darn o gelf gael ei dynnu i lawr gan ddynion a ddywedodd eu bod nhw wedi eu cyflogi i wneud hynny gan gwmni contractio am resymau diogelwch.