Newyddion S4C

Jordan James yn ymuno â chlwb Rennes yn Llydaw

12/08/2024
Jordan James

Mae chwaraewr canol cae Cymru Jordan James wedi ymuno â chlwb Rennes yn Llydaw yn Ffrainc.

Mae James, 20, wedi gadael Birmingham City er mwyn ymuno â'r clwb yn Ligue 1 mewn cytundeb gwerth tua £4m. 

Gorffennodd Rennes, sy'n cael eu rheoli gan Julien Stephan, yn 10fed yn y gynghrair Ffrengig y llynedd. 

Ymddangosodd 104 gwaith dros Birmingham, gan sgorio 10 gôl. 

Mae hefyd wedi chwarae 11 gwaith i Gymru. 

Dywedodd James: "Dwi wrth fy modd i ymuno â Rennes, clwb uchelgeisiol ac arbennig. Mae'n gyfle perffaith i mi, a dwi'n gyffrous iawn. 

"'Dw i methu aros  i chwarae gyda fy nghyd-chwaraewyr newydd, a phrofi pêl-droed Ffrainc a Ligue 1. Dwi'n barod."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.