Newyddion S4C

BBC wedi gofyn i Huw Edwards dalu dros £200,000 yn ôl

Newyddion S4C 12/08/2024

BBC wedi gofyn i Huw Edwards dalu dros £200,000 yn ôl

Wythnos ar ôl i Huw Edwards gyfaddef creu delweddau anweddus o blant mae'r BBC bellach yn gofyn iddo dalu rhywfaint o'i gyflog yn ôl.

Am hanner dydd, fe gafodd staff y Gorfforaeth lythyr gan y Cadeirydd Samir Shah.

Dywedodd mai sioc oedd dysgu fod y cyn-gyflwynydd yn byw bywyd dwbwl a'i fod wedi dangos ewyllys drwg.

Ychwanegodd fod Edwards yn gwybod beth oedd o wedi'i wneud ond wedi dal i gymryd cannoedd o filoedd o bunnoedd yn ystod y pum mis rhwng cael ei arestio ac ymddiswyddo.

Bellach, mae'r BBC wedi gofyn iddo dalu'r arian yn ôl.

"Mae'n ddiddorol bod nhw wedi penderfynu gwneud y cais yma.

"Mae'n gwneud i fi feddwl beth sydd yn ei gytundeb cyflogaeth.

"Mae'n sôn bod o wedi derbyn cyflog mewn ymddiriedaeth wael.

"Tybed oes 'na gymalau yn ei gytundeb sy'n cyfiawnhau'r cais yma?

"Mae'n anodd gweld be wnân nhw nesaf.

"Un peth ydy gofyn amdano fo nôl ond peth arall yw cael achos llys.

"Dw i ddim yn gwybod a fydden nhw am fentro i wneud hynny."

Mae'r BBC yn cydnabod y gall ymddygiad annerbyniol godi os bydd rhai yn y gweithle yn fwy pwerus nag eraill a bod nhw'n adolygu'r ffordd maen nhw'n ymdrin ag ymddygiad o'r fath.

Mae Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe a'r Coleg Cerdd a Drama wedi cyhoeddi nad oes gan Edwards bellach swyddi er anrhydedd a ddoe, collodd y fraint o fod yn aelod o Orsedd y Beirdd.

Bellach, mae dan bwysau i dalu dros £200,000 yn ôl i'w gyn-gyflogwyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.