Newyddion S4C

Y Seintiau Newydd i chwarae yn 'un o'r gemau mwyaf yn hanes y clwb'

13/08/2024
Chwaraewyr Seintiau Newydd yn dathlu sgorio

Bydd Y Seintiau Newydd yn chwarae yn 'un o'r gemau mwyaf yn hanes y clwb' nos Fawrth wrth iddyn nhw herio pencampwyr Moldofa gartref.

Colli oedd hanes y Seintiau Newydd o 1-0 yn erbyn Petrocub Hîncești yng nghymal cyntaf trydedd rownd ragbrofol Cynghrair Europa nos Fawrth diwethaf.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae nos Fawrth ac os llwydda'r Seintiau i ennill dros y ddau gymal, nhw fydd y tîm cyntaf o'r cynghreiriau domestig yng Nghymru i fynd y tu hwnt i'r rowndiau rhagbrofol mewn cystadleuaeth Ewropeaidd.

Byddai llwyddiant yn erbyn Petrocub yn golygu y byddai pencampwyr Cymru yn chwarae mewn gêm ail gyfle Cynghrair Europa.

Hyd yn oed os byddan nhw'n colli'r gêm honno, byddai'r Seintiau yn cyrraedd cystadleuaeth Cyngres Europa.

Os yn colli yn erbyn Petrocub nos Fawrth, byddai angen i'r Seintiau ennill y rownd nesaf yng ngemau ail gyfle Cyngres UEFA er mwyn cyrraedd y brif gystadleuaeth.

Naill ai FK Panevėžys o Lithwania neu Maccabi Tel-Aviv o Israel fyddai eu gwrthwynebwyr yn y rownd ragbrofol olaf.

Dywedodd y rheolwr Craig Harrison: "Mae hi'n gêm fawr, mae yna bwysau, ond dyma'r cyfle mwyaf i'r Seintiau Newydd a dwi'n meddwl mai dyma ydy'r cyfle mwyaf i bêl-droed yng Nghymru."



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.