Newyddion S4C

Dyn 36 oed o Bwllheli'n gwadu trosedd hiliol

12/08/2024
Caernarfon

Mae cais dyn 36 oed am fechniaeth wedi ei wrthod ar ôl iddo gael ei gyhuddo o drosedd hiliol yng nghanol Caernarfon yng Ngwynedd.  

Yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun, gwadodd Michael Owen Williams o Bwllheli y cyhuddiad yn ei erbyn. 

Mae Mr Williams wedi ei gyhuddo o drosedd yn ymwneud â hiliaeth, gan ymddwyn yn fygythiol gyda'r bwriad o achosi gofid. 

Mae honiadau iddo gyflawni'r drosedd yn erbyn dynes nad oedd yn ei hadnabod a hynny mewn sawl arosfan bws, yn ôl yr hyn a gafodd ei grybwyll yn y llys gan y cyfreithiwr ar ran yr amddiffynydd, Carys Parry. 

Honnir iddo ymddwyn yn fygythiol tuag at Shakila Meli ar 9 Awst. 

Mae e hefyd wedi ei gyhuddo o dorri dau orchymyn yn ymwneud ag atal niwed rhywiol, drwy fynd at ddynes nad oedd yn ei hadnabod a gwneud iddi deimlo'n anghyfforddus.  

Cafodd ei gadw yn y ddalfa gan y barnwr Gwyn Jones tan 13 Medi. 

Bydd y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caernarfon

   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.