Newyddion S4C

Gwella mynediad band eang mewn ardaloedd gwledig

13/08/2024
 Band Llydan

Bydd cartrefi mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru yn rhan o gynllun i wella mynediad at fang eang gan Lywodraeth y DU.

Bydd tua 312,000 o safleoedd, yn gartrefi a busnesau, ar draws Prydain yn cael mynediad at fand-eang gigadid (gigabit). Mae'r cynllun penodol hwn yn cynnwys ardaloedd gwledig yng Nghymru am y tro cyntaf. 

Bwriad y cynllun ydy sicrhau fod gan bawb yn y DU fynediad at fand-eang cyflym erbyn 2030. 

Hyd yma, mae cytundeb £288m rhwng Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg Llywodraeth y DU a chwmni Openreach wedi cael ei arwyddo er mwyn i'r cwmni gysylltu bron i 97,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru a Lloegr. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Technoleg Peter Kyle: "Dros y degawd diwethaf, mae darpariaeth bang eang y DU wedi bod yn rhy araf ac wedi esgeuluso gormod o ardaloedd ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban. 

"Rydym yn mynd i'r afael â hyn drwy gynnig cymorth i gannoedd ar filoedd o gartrefi a busnesau ar hyd a lled y wlad, gan ganolbwyntio ar yr ardaloedd na chafodd eu blaenoriaethu gan y llywodraeth flaenorol, fel Cymru."

Ychwanegodd y gweinidog Isadeiledd Digidol Chris Bryant, AS Rhondda ac Ogwr: "Rydym ni wedi bod yn glir ein bod ni eisiau sicrhau twf economaidd parhaus ymhob cornel o Brydain, ac mae hyn yn dechrau drwy sicrhau fod gan ein cymunedau yr isadeiledd sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.