Newyddion S4C

Yr heddlu'n cadarnhau mai corff merch 15 oed a gafodd ei ddarganfod ger Y Trallwng

12/08/2024
Afon Hafren

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau mai corff merch 15 oed yw'r un gafodd ei ddarganfod ger Y Trallwng nos Wener.

Roedd Holli Smallman, o'r Trallwng, wedi mynd ar goll yn Afon Hafren ddydd Gwener.

Dywedodd y llu eu bod nhw wedi dod o hyd i’w chorff tua 20.00 nos Wener.

Roedd yr heddlu wedi derbyn adroddiadau ychydig cyn 16:40 ddydd Gwener bod person wedi mynd ar goll yn yr afon.

Roedd Gwylwyr y Glannau a'r Gwasanaeth Tân wedi cynorthwyo'r ymdrechion i'w darganfod.

Mae teulu Ms Smallman wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

“Maen nhw yn ein meddyliau ni ar yr adeg anodd hon,” meddai'r heddlu.

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.