'Dirgel': Apêl am wybodaeth am long o Borthmadog oedd yn rhan o baratoadau D-Day
Mae grŵp o haneswyr lleol yn apelio am wybodaeth am hanes llong o Borthmadog a allai fod wedi chwarae rhan bwysig yn ystod paratoadau D-Day.
Mae gwirfoddolwr o Amgueddfa’r Môr ym Mhorthmadog, Capten David Creamer, yn awyddus i wybod mwy am hanes yr SS Florence Cook – neu ‘Florrie’ – rhwng Mai a Hydref 1944.
Roedd y llong, oedd yn cludo deunydd ffrwydrol ac arfau yn gysylltiedig â phorthladd Porthmadog.
Y gred yw ei bod wedi cymryd rhan mewn sawl ymgyrch yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond nid oes gwybodaeth ar gael ynglŷn â’i rôl yn ystod D-Day.
Dywedodd Mr Creamer, o Benrhyndeudraeth, ei fod wedi ‘taro wal’ wrth geisio canfod mwy am ei hanes.
“Mae gan lot o bobl ym Mhorthmadog a thu hwnt atgofion melys o Florrie," meddai.
"Roedd hi’n llong adnabyddus iawn yn ei chyfnod.
“Ond does fawr ddim manylion am ei gweithredoedd rhwng Mai a Hydref 1944, sy’n yn ddirgel."
Roedd y llong yn berchen i gwmni Cookes Explosives Ltd, oedd a’i bencadlys yn South Shields yng ngogledd ddwyrain Lloegr, a gyda depo ym Mhenrhyndeudraeth.
Mae’r safle, a oedd yn arfer ymdrin â ffrwydron, wedi ei ddadgomisiynu bellach ac yn gartref i Warchodfa Natur Gwaith Powdwr.
Er ei bod wedi’i chofrestru yn Sunderland, dyma oedd y llong fasnachol ddiwethaf i nodi Porthmadog fel ei phorthladd cartref.
'Rhyfedd iawn'
Cludo deunydd ffrwydrol ar gyfer chwareli oedd swyddogaeth gyntaf y llong, ond fe gychwynnodd cludo arfau rhyfel ar ran y llynges, wedi i’r rhyfel ddechrau.
Ar ddiwedd y rhyfel, cafodd ‘Florrie’ ei rhyddhau yn ôl i ddefnydd masnachol, gan barhau i dywys deunydd ffrwydrol tan 1959.
Yna, cafodd ei gwerthu i gwmni o’r Iseldiroedd a’i throsi mewn i long ysgraff (barge).
Mae Capten Creamer yn dweud iddo ymchwilio yn archifdai Caernarfon a Dolgellau, ond heb lwyddo darganfod mwy am hanes y llong rhwng Mai a Hydref 1944.
Ychwanegodd Mr Creamer: “Mae toriadau papur newydd yn Amgueddfa’r Môr ym Mhorthmadog yn awgrymu ei bod wedi darparu arfau i ddwy long arall y llynges oedd yn bombardio’r arfordir yn Ffrainc yn ystod glaniadau D-Day.
“Es i’n ôl i’r archifdai i edrych ar recordiau goramser y cwch, anfonebau, taliadau a chyfrifon cyflog y meistr, ond mae popeth yn stopio ym Mai 1944, a ddim yn dechrau eto tan Hydref 1944.
“Un ai di’r recordiau heb eu cadw, neu maen nhw wedi cael eu cloi i ffwrdd i’w ryddhau ar ôl i gyfnod swyddogol fynd heibio... da ni ddim yn siŵr, da ni wedi taro wal frics.
“Mae’n rhyfedd iawn, hoffwn wybod mwy os all unrhyw un lenwi’r bylchau.”
Lluniau: Amgueddfa'r Môr Porthmadog