Rhybudd melyn am law trwm i'r de a'r canolbarth ddydd Sadwrn
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm i'r de a'r canolbarth ddydd Sadwrn.
Fe fydd y rhybudd yn dod i rym am 06:00 ac yn dod i ben am 23:59.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae posibilrwydd o lifogydd ac fe allai'r glaw achosi difrod i adeiladau.
Fe allai'r tywydd gael effaith ar wasanaethau trên a bysiau, ac fe allai arwain at golli cyflenwadau trydan mewn rhai llefydd.
Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer y siroedd canlynol:
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gâr
- Ceredigion
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg