Casnewydd: Cyhuddo pedwar unigolyn o ymosod ar ddisgybl ysgol

Heddlu

Mae dyn a thri bachgen wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad ag ymosodiad honedig ar ddisgybl ysgol yng Nghasnewydd ym mis Mai.

Cafodd fideo o'r digwyddiad ei rannu'n eang ar gyfryngau cymdeithasol ar y pryd.

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd Heddlu Gwent fod dyn 31 oed a bechgyn 14, 13, a 12 oed oll wedi eu cyhuddo.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Vicki Townsend: "Rydym wedi cyhuddo pedwar o bobl - dyn 31 oed a thri bachgen, 14, 13 a 12 oed - o ymosod fel rhan o'r ymchwiliad parhaus i ymosodiad yn Llyswyry.

"Cafodd y pedwar eu rhyddhau'n ddiweddarach ar fechnïaeth amodol i ymddangos yn y llys ym mis Rhagfyr.

"Rydym yn deall bod llawer iawn o ddiddordeb wedi bod yn yr ymchwiliad hwn.

"Mae'n hanfodol bod pobl yn ystyried sut y gallai eu hiaith, yn enwedig sylwadau a wneir ar-lein, effeithio ar ein gallu i ddwyn unrhyw un a geir i fod wedi cyflawni trosedd gerbron llys."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.