'Embaras': Datgelu enwau gwrthwynebwyr Cwpan Cymru cyn darlledu seremoni

Draw Cwpan Cymru

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi’i chyhuddo o “danseilio hygrededd” Cwpan Cymru ar ôl i gemau rownd 16 olaf Cwpan Cymru gael eu datgelu cyn i'r seremoni i dynnu enwau o het gael ei darlledu.

Fe gafodd y clybiau sydd wedi cyrraedd y 16 olaf wybod eu gwrthwynebwyr nos Iau, wrth i’r Gymdeithas ddarlledu’r seremoni o dynnu enwau.

Ond mae un clwb o’r JD Cymru Premier, CPD Y Fflint, wedi beirniadu’r Gymdeithas, ar ôl i gemau’r bedwaredd rownd gael eu datgelu ar-lein rai dyddiau’n ôl.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dweud eu bod wedi recordio’r seremoni rai dyddiau o flaen llaw ac eu bod yn “ymchwilio i’r mater” er mwyn deall sut y cafodd y gemau a oedd dan embargo eu datgelu’n gynnar.

Wedi’r darllediad nos Iau, dywedodd CPD Y Fflint mewn neges ar X: “Fe fyddem yn wynebu Penybont oddi cartref yn rownd nesaf Cwpan Cymru.

“Fel clwb rydym wedi ein siomi bod y sïon ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cael eu profi’n gywir ynglŷn â hygrededd y seremoni dynnu enwau (draw).”

Fe ychwanegodd Cadeirydd y clwb, Darryl Williams: “Os mae’n wir fod yr enwau wedi’u tynnu nos Fawrth, yna mae hygrededd y broses wedi’i danseilio’n gyfan gwbl.

"Wrth recordio’r enwau’n cael eu tynnu, mae modd ei stopio/newid. Mae tynnu enwau yn digwydd yn fyw er mwyn cynnal ei hygrededd ac onestrwydd.”

'Dim digon da'

Mae cefnogwyr rhai clybiau, gan gynnwys Caernarfon a’r Barri wedi rhannu eu cwynion am yr hyn sydd wedi digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mewn neges wedi’i chyfeirio at Brif Weithredwr CBDC, Noel Mooney, dywedodd cyfrif Clwb Cefnogwyr y Barri: “Mae’n rhaid eich bod yn teimlo embaras gan y driniaeth amharchus o Gwpan Cymru, @NoelMooney13.

“Dim hyd yn oed ymddiheuriad neu eglurhad? Chi yw ceidwad ein cystadleuaeth ddomestig 150 oed. Dyw e ddim digon da. Cywilyddus.”

Image
Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney
Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Wrth ymateb fe ddywedodd Noel Mooney ar X: “Rydym yn recordio tynnu’r enwau ‘fel pe bai'n fyw’ ymlaen llaw gyda gwestai annibynnol, aelod o’r cyngor, cynhyrchydd, person camera a chyflwynydd… wedyn, unwaith mae’r enwau wedi’u tynnu, rydym yn anfon y gemau ymlaen at nifer fach o bartneriaid dynodedig fel eu bod yn barod i gyhoeddi/hyrwyddo ayyb.

“Mae’n ymddangos… bod rhywun wedi dewis datgelu’r gemau (heb gael pub un yn gywir) sydd yn siomedig, ond y gemau yw’r gemau a gafodd eu tynnu. 

"Rydym yn ceisio sicrhau ansawdd cynhyrchu o safon ac yn ddelfrydol, hoffwn gytuno gyda darlledwr eu bod yn ffilmio’n fyw (dim wedi’i gytuno ar hyn o bryd).”

Fe ychwanegodd mewn sylw arall: “Dwi'n gwybod ein bod ni’n rhoi sioe at ei gilydd i dynnu enwau – dwi ddim yn credu ei fod yn rhywbeth a gafodd ei hysbysebu fel digwyddiad byw…. ymddiheuruiadau os nad oedd hyn yn eglur.”

'Ymchwilio'

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Mae sioe tynnu enwau CBDC yn cael ei recordio ymlaen llaw ac yn cael ei ffrydio ar y diwrnod dilynol.

“Mae hyn yn ein galluogi i dynnu enwau mewn sawl cystadleuaeth gwpan genedlaethol CBDC – Cwpan Cymru JD, Cwpan Cymru Bute Energy, Tarian Amatur Dragon Signs, Cwpan Ieuenctid FAW, a Chwpan Dan-16 Bute Energy – er mwyn sicrhau eu bod yn cael platfform cyfartal o’r rowndiau cynnar i’r rowndiau cyn-derfynol.

Image
Welsh Cup
Mae clybiau Cymru wedi cystadlu am Gwpan Cymru ers 1877 ac mae'n un o'r cystadlaethau pêl-droed hynaf yn y byd (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

“Mae’n cael ei recordio ymlaen llaw er mwyn sicrhau y gellir ychwanegu elfennau cynhyrchu o ansawdd, er mwyn darparu’r profiad gwylio gorau.

“Mae hyn yn galluogi graffeg, nodiadau atgoffa o’r gemau, a phecynnau fideo sy’n adrodd hanesion clybiau ledled y wlad i gael eu darlledu, gan roi cyfle i bob clwb weld eu henwau’n dod allan o’r bowlen.

“Ar yr achlysur hwn, cafodd yr enwau eu datgelu cyn y darllediad, ac mae hyn wedi tanseilio cyffro datgelu’r gemau diddorol rhwng y timau sydd ar ôl.

“Unwaith y caiff y seremoni ei chwblhau, mae’r gemau’n cael eu rhannu dan embargo llym gyda nifer fach o randdeiliaid er mwyn cynorthwyo cynllunio.

“Mae’r embargo hwn wedi cael ei dorri, ac mae CBDC yn ymchwilio i’r mater er mwyn deall sut mae hyn wedi digwydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.