Cymru yn cyflwyno cais ar y cyd i gynnal Cwpan y Byd Menywod FIFA 2035

Iwerddon v Cymru - Hannah Cain

Mae cymdeithasau pêl-droed Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cyflwyno cais ar y cyd i gynnal Cwpan y Byd Menywod FIFA 2035.

Os bydd y cais yn llwyddiannus, dyma fyddai'r twrnamaint Cwpan y Byd cyntaf i gael ei gynnal yn y Deyrnas Unedig ers 1966, a'r digwyddiad chwaraeon sengl mwyaf erioed i gael ei gynnal yno.

Mae'r cais yn cynnwys 22 stadiwm - 16 yn Lloegr, tri yng Nghymru, dau yn yr Alban ac un yng Ngogledd Iwerddon - ar draws 16 o ddinasoedd.

Yng Nghymru, byddai'r gemau yn cael eu cynnal yn Stadiwm Principality a Stadiwm Dinas Caerdydd y brifddinas, ac yn y Stok Cae Ras yn Wrecsam.

Mae trefnwyr yn honni mai dyma fyddai'r twrnamaint mwyaf hygyrch erioed, gyda 63 miliwn o bobl yn byw o fewn dwy awr i leoliadau'r gemau.

Maen nhw'n rhagweld y byddai 4.5 miliwn o docynnau yn cael eu gwerthu ac y byddai tua 3.5 biliwn o wylwyr yn gwylio'r gemau ar y teledu.

Byddai'r twrnamaint yn cynnwys 104 o gemau a fyddai'n cael eu cynnal gan 48 o dimau dros 39 diwrnod. 

'Braint'

Mewn datganiad, dywedodd prif weithredwyr y pedair cymdeithas bêl-droed y byddai'n "fraint" cynnal y twrnamaint.

"Byddai cynnal Cwpan y Byd i Ferched FIFA yn fraint enfawr i’n pedair gwlad gartref," meddai'r prif weithredwyr mewn datganiad.

"Os byddwn yn llwyddiannus, twrnamaint 2035 fydd y digwyddiad chwaraeon mwyaf i gael ei gynnal yn y DU gyda 4.5 miliwn o docynnau ar gael i gefnogwyr.

"Rydym yn falch o’r twf rydym wedi’i yrru yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar draws gêm y menywod a’r merched, ond mae cymaint mwy o dwf i ddod o hyd.

"Bydd y digwyddiad yma yn chwarae rhan allweddol wrth ein helpu i gyflawni hynny."

Dywedodd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer: "Mae ein cais i gynnal Cwpan y Byd Merched FIFA 2035 yn dangos angerdd y DU dros bêl-droed.

"Mae llwyddiant y Llewod wedi ysbrydoli merched ledled ein gwlad, a byddwn yn adeiladu ar y momentwm hwnnw trwy groesawu miliynau o gefnogwyr pêl-droed o bob cwr o'r byd i dwrnamaint a fydd o fudd i gymunedau a busnesau mewn dinasoedd cynnal ledled y DU.

"Gyda buddsoddiad sylweddol mewn chwaraeon ysgol a chyfleusterau ar lawr gwlad trwy ein Cynllun ar gyfer Newid, rydym yn creu cyfleoedd i ferched chwarae i'w tîm cenedlaethol."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.