Cyfeirio euogfarn cyn-is-bostfeistr o Gorwen i'r Llys Apêl
Mae achos euogfarn cyn-is-bostfeistr o Sir Ddinbych wedi ei gyfeirio at y Llys Apêl.
Mae hyn yn seiliedig ar dystiolaeth systemau cyfrifiadurol eraill Swyddfa'r Post a allai fod yn ddiffygiol, meddai'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol.
Plediodd Gareth Snow, oedd yn is-bostfeistr yng Nghorwen, yn euog yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Gorffennaf 2001 i gadw cyfrifon ffug ar ôl cyfaddef ffugio dogfennau i lenwi bwlch mewn colledion o dros £57,000 yn ei gangen yn Sir Ddinbych.
Cafodd ei garcharu am chwe mis o ganlyniad.
Dywedodd y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol eu bod bellach wedi cyfeirio ei euogfarn at y Llys Apêl ar ôl i'w erlyniad fod yn seiliedig ar system Gwasanaeth Talu Awtomatig (APS) a Therfynell Talu Awtomatig APT) Swyddfa'r Post.
Fe allai'r systemau hyn fod yn ddiffygiol meddai'r Comisiwn.
Diddymu euogfarn
Mewn datganiad, dywedodd y Comisiwn: "Yn dilyn adolygiad manwl, mae'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol wedi penderfynu bod posibilrwydd gwirioneddol y bydd y Llys Apêl yn canfod bod euogfarn Mr Snow yn anniogel, er gwaethaf ei blediad euog, ac y byddant yn ei ddiddymu."
Dywedodd Cadeirydd y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol, y Fonesig Vera Baird KC: “Mae tystiolaeth y gallai’r systemau APS/APT achosi gwallau cyfrifyddu.
"Yn achos Mr Snow, byddai’n dweud nad oedd tystiolaeth o unrhyw golled wirioneddol.
“Er na chododd Mr Snow faterion am yr APS/APT ar y pryd, roedd diffygion cyfrifyddu yn digwydd na allai eu hesbonio.
"Ymddengys nad oes unrhyw arwydd bod Swyddfa'r Post wedi gwneud unrhyw ymgais i ymchwilio i achosion posibl eraill.
“Bydd yn awr yn fater i’r Llys Apêl i benderfynu a yw’r euogfarn yn anniogel ac a ddylid ei diddymu.”
Horizon
Mae'r datblygiad diweddaraf yn dod yn dilyn sgandal Horizon Swyddfa'r Post.
Fe achosodd y system ddiffygiol, sydd yn cael ei rhedeg gan Fujitsu, tua 1,000 o bobl i gael eu herlyn a'u cael yn euog ar gam yn y DU rhwng 1999 a 2015.
Roedd Horizon yn gwneud iddi ymddangos bod arian ar goll yng nghanghennau Swyddfa'r Post oedd dan ofalaeth yr is-bostfeistri.
Cafodd nifer eu hanfon i'r carchar, gan gynnwys Noel Thomas o Ynys Môn, ac fe ddioddefodd llawer galedi o ganlyniad i'r nam yn y system ar y pryd.