Newyddion S4C

Cyhuddo dau ddyn o'r de o gyhoeddi negeseuon 'bygythiol' yn ymwneud â therfysgoedd Lloegr

12/08/2024
S4C

Fe fydd dau ddyn o dde Cymru yn ymddangos yn y llys ddydd Llun wedi’u cyhuddo o anfon negeseuon ar-lein yn gysylltiedig â’r terfysgoedd yn Lloegr.

Mae Geraint Boyce, 43, o Benrhiw-Fer, Cwm Rhondda, wedi’i gyhuddo o gyhoeddi deunydd bygythiol ar Facebook oedd yn annog casineb ar sail crefydd.

Mae Jamie Mitchell, 45, o Benygraig, Cwm Rhondda wedi’i gyhuddo o gyhoeddi negeseuon bygythiol ar Facebook oedd yn ysgogi casineb hiliol.

Bydd y ddau ddyn yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.

Roedd y negeseuon honedig yn gysylltiedig â’r anrhefn treisgar a welwyd ar draws Lloegr dros y pythefnos diwethaf, yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS).

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.