‘Anodd iawn cael gyrfa yn y byd cerddoriaeth’ os o gefndir dosbarth gweithiol
Mae Katie Hall o’r band Chroma wedi rhannu ei phrofiad o fod yn artist o gefndir dosbarth gweithiol yng Nghymru.
Mae Katie yn wreiddiol o Aberdâr ac mae ei chyd-aelodau yn y band, Liam a Zac, hefyd yn dod o’r Cymoedd.
Mewn rhaglen ddiweddar o GRID, dywedodd Katie, prif leisydd Chroma: “Mae’r cymunedau yma’n gyfarwydd iawn gyda pheidio cael sicrwydd swyddi, ac mae hynny’n rywbeth sydd 100% yn gyfarwydd i’r diwydiant cerddoriaeth.”
Mae Zac, sef drymiwr y band, yn teimlo bod yr ardal wedi siapio'r ffordd mae’n edrych ar y byd.
“Mae rhyw fath o gydymdeimlad efo pawb sy’n mewn band o’r Cymoedd, ymhob elfen o fywyd, mae’r bobl wir wedi gorfod trïo’n galed i cael rhyw fath o swydd.”
Yn ôl ystadegau diweddar, dim ond 16% o’r boblogaeth o gefndir dosbarth gweithiol sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth, perfformio neu gelfyddydau gweledol.
Mae bron i 65% o’r boblogaeth yn yn y diwydiant yn dod o gefndir dosbarth canol neu uwch.
Yn ôl Katie, mae hyn yn cael ei deimlo yn y byd cerddoriaeth yng Nghymru hefyd.
“Dyw e ddim yn unrhyw beth i wneud gyda’r dalent sydd gyda ti, weithiau. Erbyn hyn, mae lot i wneud gyda pha adnoddau sydd ar gael i ti.
“Pan rwyt ti’n cyhoeddi albym, gyda lot o hynny ti angen ariannu fe dy hunan. Mae bron yn dy orfodi di i fod yn llawrydd. Yn enwedig yn y cyfnod ry’n ni ynddo nawr a’r ffordd ry’n ni’n derbyn ein cerddoriaeth nawr, mae’n codi ofn achos does dim sicrwydd yna.
“Ddyddiau yma, mae hi mor anodd cael gyrfa mewn cerddoriaeth. Beth dyw pobl ddim yn ystyried yw dy’n ni ddim yn cymryd unrhyw arian, ‘ma popeth yn mynd ‘nôl mewn i’r prosiect.”
Perfformio gyda'r Foo Fighters
Mae Katie hefyd yn teimlo fel bod rhaid gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig i artistiaid o gefndir dosbarth gweithiol.
Dywedodd: “Os oes cyfle’n dod, mae’n rhaid i chi gymryd e. Fel rhywun dosbarth gweithiol, ma rhaid i chi gymryd e a rhedeg bant gydag e.”
Mae Chroma wedi perfformio gyda’r Foo Fighters ym Manceinion yn gynharach eleni.
Ond, i Katie, nid ar chwarae bach mae cyrraedd y man hwn: “Fel band o Gymru i chwarae gig mor fawr, mae’n fraint anhygoel ond mae wedi cymryd blynyddoedd i ni gyrraedd lle ry’n ni heddiw.”
Mae Katie a gweddill Chroma yn gobeithio bod eu cerddoriaeth yn fath o sylwebaeth ar gymdeithas.
“Ry’n ni eisiau siarad am y byd o’n cwmpas ni a’r pethau sy’n digwydd reit nawr, a dangos bod lleisiau dosbarth gweithiol yn hynod o bwysig.
"Mae angen i’r celfyddydau adlewyrchu cymdeithas.”
Gwyliwch y rhaglen yn llawn yma.