Arlywydd Haiti wedi'i ladd yn ei gartref

Jovenel Moise
Mae Arlywydd Haiti, Jovenel Moise, wedi cael ei saethu'n farw yn ei gartref, yn ôl prif weinidog dros dro'r wlad.
Yn ôl datganiad Claude Joseph, roedd grŵp o bobl wedi ymosod ar ei gartref dros nos.
Mae gwraig yr Arlywydd, Martine Moise, yn yr ysbyty.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: PresidenciaRD