Newyddion S4C

Ymosodiadau Dyffryn Aman: Merch 14 oed yn gwadu ceisio llofruddio

12/08/2024

Ymosodiadau Dyffryn Aman: Merch 14 oed yn gwadu ceisio llofruddio

Mae merch 14 oed wedi gwadu ceisio llofruddio tri unigolyn mewn ysgol yn Sir Gaerfyrddin fis Ebrill.

Plediodd y ferch yn euog i dri chyhuddiad o anafu’n fwriadol ac o fod â llafn yn ei meddiant ar dir ysgol, mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe fore dydd Llun.

Cafodd dwy athrawes, Fiona Elias a Liz Hopkin, yn ogystal â disgybl, eu hanafu yn y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman ar 24 Ebrill.

Ymddangosodd y ferch, oedd yn gwisgo crys gwyn, tei du a gwasgod, gyda'i gwallt wedi'i glymu'n ôl, yn y doc yn Llys y Goron Abertawe.

Siaradodd i gadarnhau ei henw a nodi ei phle.

Nid oes modd enwi y ferch sydd wedi ei chyhuddo o achos ei hoedran.

Roedd hi'n 13 oed pan ddigwyddodd yr ymosodiadau honedig.

Bydd yn parhau i gael ei chadw mewn uned ddiogel ar gyfer pobl ifanc tan ei hachos llys.

Dywedodd y Barnwr Paul Thomas bod disgwyl i'r achos hwnnw ddechrau ar 30 Medi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.