Newyddion S4C

Doctor wedi rhybuddio y gallai ymosodwr Nottingham ladd

12/08/2024
Valdo Calocane wnaeth lofruddio tri o bobl yn 2023

Mae teulu Valdo Calocane yn dweud fod ei iechyd meddwl mor ddifrifol fod seiciatrydd wedi rhybuddio y gallai "ladd rhywun" dair blynedd cyn iddo drywanu tri o bobl yn farw yn Nottingham.

Mae mam a brawd Calocane wedi dweud wrth raglen Panorama'r BBC eu bod ond wedi derbyn yr adroddiad meddygol oedd yn cynnwys y rhybudd ar ôl iddo gael ei ddedfrydu.

Fe wnaeth Calocane ladd y myfyrwyr Barnaby Webber a Grace O’Malley-Kumar a'r gofalwr ysgol Ian Coates ym mis Mehefin 2023. Fe wnaeth o wedyn ddwyn fan a tharo tri pherson arall gan achosi anafiadau difrifol.

Yn 2020 cafodd ddiagnosis o sgitsoffrenia paranoiaidd. Ond mae ei deulu yn dweud mai dim ond tair blynedd yn ddiweddarach y daethon nhw i wybod hyn.

Maent yn galw am ymchwiliad cyhoeddus a newidiadau brys i'r gwasanaethau iechyd meddwl. 

Yn ôl ei fam Celeste a'i frawd Elias gallai'r llofruddiaethau fod "wedi eu hatal".

Dywedodd Elias wrth y BBC nad oedd Valdo Calocane wedi dangos unrhyw arwyddion o broblemau iechyd meddwl tan iddo dderbyn galwad ym mis Mai 2020. 

Roedd ei frawd yn crio ar y ffôn hefo fo.

"Yn y diwedd mi ddywedodd, ' Dwi'n gallu clywed lleisiau," meddai Elias.

Adroddiad meddygol

Cafodd adroddiad meddygol ei wneud ar ôl iddo dorri i mewn i fflatiau. 

Roedd cofnodion meddygol ym mis Gorffennaf 2020 yn rhybuddio "y perygl yw y gallai hyn ddigwyddo eto ac efallai y bydd Valdo yn y diwedd yn lladd rhywun". 

Ni chafodd o unrhyw gyswllt gyda'r tîm iechyd meddwl wedyn ar ôl mis Medi 2022 pan gafodd ei gyfeirio yn ôl at y meddyg teulu.

"Yn y bôn maen nhw yn golchi ei dwylo ac yn dweud 'Oce dyna ni' " meddai ei fam. Mae'n dweud i'w mab ymbellhau oddi wrth y teulu dros y naw mis wedyn.

Cafodd Calocane ei ddedfrydu i gyfnod amhenodol mewn uned feddygol ar ôl pledio yn euog i ddynladdiad.

Mae disgwyl i adolygiad gan Y Comisiwn Ansawdd Gofal gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth. 

Mae'r adolygiad wedi bod yn edrych ar y gofal y cafodd Calocane gan Ymddiriedolaeth Iechyd GIG Sir Nottingham. 

Mae prif weithredwr yr ymddiriedolaeth wedi dweud wrth y BBC ei fod "wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn fy ngallu i atal trasiedi fel hyn rhag digwydd eto."

Dyw teuluoedd y rhai gafodd eu lladd ddim yn hapus gyda dedfryd Calocane. Maen nhw yn dweud ei fod yn gwybod yr hyn yr oedd yn  ei wneud ac y dylai fod wedi mynd i'r carchar am lofruddiaeth.

Fe gafodd ei ddedfryd ei hystyried yn Llys yr Apêl ond fe ddywedodd y barnwyr nad oedd ei ddedfryd yn rhy drugarog.

Mae'r teuluoedd hefyd yn galw am ymchwiliad cyhoeddus.

Llun: Heddlu Sir Nottingham

 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.