Newyddion S4C

Gwacáu ail ranbarth o Rwsia yn sgil 'gweithgarwch gan Wcráin'

12/08/2024
Byddin Wcrain

Mae rhannau o ail ranbarth yn Rwsia yn cael ei wacáu bore dydd Llun yn sgil adroddiadau o “weithgarwch” gan luoedd Wcráin, meddai llywodraethwr lleol.

Dywedodd Vyacheslav Gladkov, sy'n rhedeg rhanbarth Belgorod yn ne-orllewin Rwsia, fod awdurdodau wedi rhoi sêl bendith i fynd â phobl oddi yno.

Daw hyn ar ôl i filwyr Wcráin oresgyn Oblast Kursk gerllaw ddydd Mawrth diwethaf, gan arwain at ymdrech i wacáu'r rhanbarth.

'Adfer cyfiawnder'

Mae Prif Weinidog Wcráin, Volodymyr Zelenskyy, wedi disgrifio'r ymosodiad fel "ein gweithredoedd i wthio'r rhyfel allan i diriogaeth yr ymosodwr".

Gan roi arwydd pellach o nod yr ymosodiad, dywedodd: "Mae Wcráin yn profi ei fod yn gwybod yn iawn sut i adfer cyfiawnder ac yn gwarantu'n union y math o bwysau sydd ei angen - pwysau ar yr ymosodwr."

Nid yw'n glir ar hyn o bryd faint o filwyr Wcráin sydd wedi croesi'r ffin, na pa mor bell maen nhw wedi ei gyrraedd.

Ond dywedodd Gweinyddiaeth Amddiffyn Rwsia fod ei lluoedd wedi ymgysylltu â milwyr Wcráin ger pentrefi Tolpino ac Obshchy Kolodez, sydd tua 25km a 30km o'r ffin gydag Wcráin.

 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.