Sôn am fwy o iawndal i gwsmeriaid dŵr
Fe allai cwsmeriaid gael mwy o iawndal gan gwmnïau dŵr os nad yw'r gwasanaeth maent yn ei dderbyn o safon dda.
Byddai'r rheolau newydd yn golygu iawndal am beidio dod i osod mesuryddion neu i gymryd y darlleniad pan roedd y cwmnïau dŵr wedi gaddo gwneud.
Mae Llywodraeth Prydain yn cynnig dyblu'r swm lleiaf o iawndal i £40.
Daw hyn ar ôl iddynt addo gwella ansawdd y dŵr. Roedd mesur seneddol dŵr wedi ei gyhoeddi yn ystod araith y Brenin fis diwethaf.
Yn ôl Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Steve Reed, mae busnesau a'r cyhoedd wedi eu gadael i lawr gan gwmnïau dŵr.
Byddai'r amgylchiadau y byddai modd hawlio iawndal yn cael eu hehangu. Byddai'n golygu iawndal awtomatig os yw rhywun yn derbyn cyngor i ferwi dŵr cyn ei yfed neu i goginio bwyd.
Yn ogystal byddai dwbl yr iawndal ar gyfer digwyddiadau trafferthus fel methu apwyntiadau gyda chwsmeriaid, neu beidio rhoi gwybod o flaen llaw bod y cyflenwad dŵr yn mynd i gael ei effeithio.
Bydd ymgynghoriad ar y cynigion yn para wyth wythnos. Os byddant yn dod i rym, dyma'r tro cyntaf i swm iawndal newid ers 2000.