Newyddion S4C

Y Gemau Olympaidd yn dod i ben gyda seremoni yn y Stade de France

12/08/2024
Y Stade de France, Paris

Mae disgwyl i athletwyr Tîm Prydain Fawr ddychwelyd adref ar ôl Gemau Olympaidd llwyddiannus ym Mharis.

Mewn seremoni gloi yn y Stade de France nos Sul, roedd athletwyr Tîm Prydain Fawr yn chwifio baneri Jac yr Undeb wrth iddynt ddathlu mewn crysau a oedd yn dangos blodyn pob cenedl ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Yn ystod y seremoni, fe wnaeth seren Mission Impossible, Tom Cruise, abseilio i mewn i'r stadiwm o’r to cyn cyfarch athletwyr yn y dorf.

Fe enillodd Tîm Prydain Fawr 65 o fedalau – yr un swm a enillwyd yn Llundain 2012 a’r ail wobr orau erioed dramor. Athletwyr o Gymru oedd yn gyfrifol am ennill 13 o'r medalau hyn, gan ennill tri aur, tri arian a saith efydd ar ran y tîm.

Dim ond yr Unol Daleithiau a Tsieina wnaeth ennill mwy o fedalau nag erioed, gyda 126 a 91 yn y drefn honno.

Ond enillodd Tîm Prydain Fawr wyth yn llai o fedalau aur nag yn Tokyo dair blynedd yn ôl. 

Fe wnaeth Prydain orffen gyda 14 aur, 22 arian a 29 efydd, gan lithro i’r seithfed safle yn y tabl medalau – ei lle isaf ers gorffen yn 10fed yn Athen 2004 – a’r drydedd wlad Ewropeaidd orau y tu ôl i Ffrainc a’r Iseldiroedd.

Bydd Paris nawr yn troi ei ffocws at y Gemau Paralympaidd, a fydd yn dechrau ar Awst 28.

Mae Tîm Prydain Fawr eisoes wedi dechrau cynllunio ar gyfer Gemau Los Angeles 2028 trwy sicrhau Prifysgol Stanford fel ei wersyll paratoi.

'Balch'

Dywedodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru:

"Rydym yn falch o'n holl athletwyr Tîm Prydain Fawr, rydych chi'n ysbrydoliaeth i ni gyd."

"Rydych chi wedi gwneud Cymru gyfan yn falch iawn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.