Newyddion S4C

Trywanu Southport: Cynnal angladd merch naw oed

11/08/2024
Angladd Alice da Silva Aguia

Cafodd angladd Alice Dasilva Aguiar, un o'r tair merch fach gafodd eu lladd yn ystod ymosodiad trywanu Southport, ei gynnal brynhawn Sul.

Bu farw Alice, oedd yn naw oed, yn yr ymosodiad ar Stryd Hart ar 29 Gorffennaf.

Cafodd ei hangladd ei gynnal yn Eglwys Saint Patrick yn Southport.

Roedd ei harch wedi teithio i'r eglwys mewn cerbyd pinc, wedi ei dynnu gan geffylau yn gwisgo plu pinc.

Roedd cymeradwyaeth wrth i’r cerbyd ddod at fynedfa’r eglwys.

Roedd rhai cannoedd o bobl yn yr eglwys tra bod mwy yn gwrando y tu allan.

Daw wrth i'r teulu gyhoeddi y llun olaf erioed ohoni, yn disgwyl i gael mynd i mewn i'r sesiwn dawnsio Taylor Swift lle bu farw.

Image
Alice Dasilva Aguiar
Y llun olaf o Alice Dasilva Aguiar cyn ei marwolaeth

 

Image
Angladd Alice da Silva Aguiar
Image
Yr angladd

Bu farw dwy ferch arall, Bebe King, chwech oed, ac Elsie Dot Stancombe, saith oed, yn yr ymosodiad.

Mae Axel Rudakubana, a symudodd o Gaerdydd i Southport yn blentyn, wedi ymddangos o flaen llys ynadon wedi ei gyhuddo o'r troseddau honedig.

Cafodd Rudakubana hefyd ei gyhuddo o geisio llofruddio dau oedolyn, yr hyfforddwraig yoga Leanne Lucas a’r dyn busnes John Hayes, yn ogystal â cheisio llofruddio’r wyth o blant na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.