Newyddion S4C

Gemau Olympaidd: Yr athletwyr o Gymru a enillodd fedalau

11/08/2024

Gemau Olympaidd: Yr athletwyr o Gymru a enillodd fedalau

Bydd pythefnos o gystadlu yn y Gemau Olympaidd yn dod i ben ddydd Sul a dyma'r nifer fwyaf o fedalau mae athletwyr o Gymru wedi ennill.

Bydd 13 medal yn dychwelyd i Gymru wrth i athletwyr ennill medalau o bob lliw mewn cystadlaethau unigol ac fel rhan o dîm.

Emma Finucane wnaeth sicrhau medal 13 fore Sul wrth iddi ddod yn drydydd yn y ras gwibio unigol ym Mharis.

Hwnnw oedd ei thrydedd medal yn y gemau, wedi iddi ennill efydd yn ras y keirin a medal aur yn y ras gwibio tîm.

Hi yw'r fenyw gyntaf o Brydain mewn 60 mlynedd i ennill tair medal mewn un Gemau Olympaidd.

'Cenedl enfawr tu i ôl fi'

Roedd llwyddiannau i Gymru ar y trac athletau hefyd gyda Jeremiah Azu yn rhan o dîm ras cyfnewid 4x100 medr.

Ar ôl iddo ennill y fedal roedd yn trafod ei falchder wrth gynrychioli Cymru.

"Dwi methu aros i ddod nôl i Gaerdydd i ddathlu, dwi bob tro yn dweud mai Caerdydd yw'r ddinas orau yn y byd, dwi wirioneddol yn ei garu," meddai.

"Mae'r bobl yn wych ac mae fy nheulu yno hefyd, bydden i ddim yn newid hynny.

"Unwaith fydd fy ngyrfa yn dod i ben, ar ôl ymarfer yn Yr Eidal, fyddai syth nôl yng Nghaerdydd.

"Dwi'n gwneud hwn i bobl Cymru, dwi eisiau iddyn nhw deimlo fel bod nhw ar y trac gyda fi, mae cenedl enfawr tu ôl i fi a dwi'n falch o'i chynrychioli."

Yr holl fedalau

Dyma enillwyr Cymru i gyd yn y Gemau Olympaidd ym Mharis:

Aur

Matt Richards a Kieran Bird (nofio - ras cyfnewid 4x200m dull rhydd)

Emma Finucane (seiclo - ras gwibio tîm)

Harry Brightmore (rhwyfo - ras wyth dyn)

Arian

Matt Richards (nofio - 200m dull rhydd)

Olliw Wynne Griffith (rhwyfo - parau dynion)

Elinor Barker (seiclo - madison menywod)

Efydd

Eve Stuart (rhwyfo - ras wyth menyw)

Matt Aldridge (rhwyfo - ras pedwar dyn)

Becky Wilde (rhwyfo - parau menywod)

Elinor Barker, Jess Roberts ac Anna Morris (seiclo - ras cwrso tîm)

Emma Finucane (seiclo - ras y keirin)

Jeremiah Azu (athletau - ras cyfnewid 4x100m)

Emma Finucane (seiclo - ras gwibio unigol)

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.