Newyddion S4C

'Cyfnod anodd': Y cyflwynydd tywydd Tanwen Cray yn emosiynol wrth drafod sylwadau cas

11/08/2024

'Cyfnod anodd': Y cyflwynydd tywydd Tanwen Cray yn emosiynol wrth drafod sylwadau cas

Roedd y cyflwynydd tywydd Tanwen Cray yn emosiynol wrth drafod sylwadau cas derbyniodd am gyfres oedd yn ei dilyn trwy ei beichiogrwydd.

Wrth siarad ar raglen Bore Sul ar BBC Radio Cymru roedd Tanwen yn trafod sylwadau ac ymateb i'r rhaglen ddogfen Tanwen & Ollie.

Roedd y gyfres yn dilyn Tanwen yn ystod yr wythnosau cyn genedigaeth ei merch, Neli Meillionen Awen Cooper ddiwedd mis Ionawr, a hynny ochr yn ochr gyda’i phartner Ollie Cooper, sef pêl-droediwr clwb pêl-droed Abertawe.

Derbyniodd ymateb positif a negatif am y gyfres, ond roedd sylwadau cas gan bobl ar y cyfryngau cymdeithasol yn anodd iawn iddi ddarllen.

“Ma'r ymateb da 'di bod yn anhygoel, ond hefyd ni wedi cael lot o negeseuon negyddol ar bob un cyfryngau cymdeithasol," meddai.

“Ma hwnna'n rili anodd, fi yn deall fod e'n rhan o swydd os ti mynd i rannu lot, chi mynd i gael pobl yn ymateb yn negyddol.

“Ond, beth oedd yn bach o sioc i fi a nath frifo fi lot, fi jyst yn meddwl ni’n gymuned mor fach yng Nghymru ac mae gymaint o bobl yn meddwl bod gymaint o bobl adnabyddus yn gweud pethe… a ma’n rili anodd a di bod lot o sioc.

“O’dd lot o lunie a Neli odd e yn amser rili anodd.

“Yn edrych nol, fi’n falch bod fi wedi gwneud bod fi wedi neud e."

Image
Tanwen a Ollie

'Bywyd hyfryd'

Penderfynodd Tanwen rannu "popeth" am ei beichiogrwydd ar Instagram.

Roedd dangos nad oedd ots ganddi beth oedd pobl yn dweud amdani yn rhan o'r rheswm iddi benderfynu gwneud hynny, meddai.

“Wnes i benderfynu, ma' pobl mynd i siarad amdano chi tu ôl i’ch cefn chi, byse fe’n haws i fi a well da fi rhannu popeth fel bod pawb yn gallu gweld bod dim ots 'da fi o gwbl," meddai.

Bellach mae Neli yn chwe mis oed ac mae Tanwen yn dweud bod popeth yn ei bywyd yn bositif.

“Fi’n llefen trwy’r amser, lot mwy na be o’n i cyn cael Neli, ond fi’n chwerthin lot mwy hefyd. Er bod bywyd gallu bod lot anoddach, fi'n anoddach, fi'n blino a llefen lot mwy," meddai.

"Fi’n meddwl overall ma bywyd yn rili rili hyfryd, fi jest yn meddwl, ma' popeth yn rili positif yn fy mywyd i, ma' bywyd yn hyfryd. 

“Fi’n dwli ar neli a’n nheulu i a fi’n rili falch bo fi dal wedi neud y gyfres."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.