Newyddion S4C

'Mae'n le diflas': Un o weinidogion Llywodraeth y DU yn ymosod ar wefan X

11/08/2024
Jess Phillips

Mae un o weinidogion Llywodraeth y DU wedi ymosod ar wefan X gan ddweud ei fod yn "le diflas" wedi ei reoli mewn modd "unbenaethol".

Daw sylwadau Jess Phillips, y gweinidog dros ddiogelu a thrais yn erbyn menywod a merched, ar ôl i berchennog X Elon Musk ymosod ar y modd oedd Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â'r terfysg yn Lloegr.

Galwodd Mr Musk y Prif Weinidog yn “two tier Keir” wrth gyhoeddi cyfres o ddelweddau a fideos beirniadol am y terfysgoedd diweddar yn y DU.

Roedd Downing Street eisoes wedi beirniadu Mr Musk am ddweud bod “rhyfel cartref yn anochel” yn y DU, gyda llefarydd swyddogol Syr Keir yn mynnu nad oedd “unrhyw gyfiawnhad dros sylwadau o’r fath”.

Dywedodd Ms Phillips ei bod wedi bod yn “hynod gaeth i Twitter” yn y gorffennol, gan gyfeirio at hen enw X, ond ei bod wedi dileu'r ap oddi ar ei ffôn ar ôl i Mr Musk gymryd yr awenau.

'Dim hwyl i'w gael'

Wrth siarad yng Ngŵyl Fringe Caeredin, dywedodd y gweinidog nad oedd X yn le da i fod bellach.

“Roeddwn i’n arfer bod yn hynod gaeth i Twitter, roeddwn i’n hynod gaeth iddo," meddai.

"Yr unig bŵer sydd gennym ni nawr dros yr hyn sy’n dod ychydig yn unbenaethol yw ein bod ni’n cefnu arno.

"Mae angen pleidleisio â’ch traed yn yr achos hwn yn hytrach nag ar ddarn o bapur."

Pan ofynnwyd iddi a fyddai’n annog pobl i adael y safle, dywedodd y byddai hynny’n “rhy ddramatig”.

“Yn bersonol, dydw i ddim yn meddwl ei fod yn ofod lle mae unrhyw hwyl i’w gael mwyach," meddai.

“Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn lle i gael gwybod pethau, mae'n le diflas iawn rŵan."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.