Dyn yn gwadu iddo achosi marwolaeth merch fach mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro
Mae dyn 34 oed wedi gwadu dau gyhuddiad o achosi marwolaeth merch fach chwe mis oed mewn maes parcio yn Ninbych-y-pysgod fis Ionawr y llynedd.
Yn Llys Y Goron Abertawe, ddydd Llun gwadodd Flaviu Naghi o Luton, Sir Bedford iddo achosi marwolaeth Sophia Kelemen drwy yrru'n beryglus, yn ogystal â gwadu cyhuddiad arall o achosi ei marwolaeth drwy yrru'n ddiofal, tra ar gyffuriau.
Roedd Sophia yn dod o Fanceinion, a chafodd ei tharo gan gar yn y maes parcio deulawr yn Ninbych-y-pysgod ar 2 Ionawr.
Bu farw y diwrnod canlynol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yng Nghaerdydd.
Clywodd y cwest yn Sir Benfro iddi farw o waedlif a gafodd ei achosi gan wrthdrawiad ffordd.
Yn y gwrandawiad byr ddydd Llun, cadarnhaodd Mr Naghi ei enw a'i gyfeiriad, gyda chymorth cyfieithydd o Rwmania.
Cafodd yr achos ei ohirio gan y Barnwr Catherine Richards tan 12.30 ddydd Mawrth.
Ni chafodd rheithgor ei ddewis a chafodd Flaviu Naghi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae disgwyl i'r achos bara am dridiau.
