Siopau Claire's a The Original Factory Shop yn galw'r gweinyddwyr

Claire's / The Original Factory Shop

Mae siopau'r stryd fawr, Claire’s a The Original Factory Shop bellach yn nwylo'r gweinyddwyr, wedi i'w perchennog ddweud bod ymdrechion munud olaf  i'w hachub wedi methu.  

Mae nifer o'r siopau ym mhob cwr o Gymru, ac mae swyddi tua 2,500 o weithwyr yn y Deyrnas Unedig mewn perygl.   

Roedd y ddau gwmni eisoes wedi gorfod ail strwythuro, a'r llynedd prynodd cwmni buddsoddi Modella Capital y siopau.

Yn ôl Modella, maen nhw wedi gorfod gwneud "penderfyniadau anodd."

Mae'n golygu y bydd swyddi 1,355 o weithwyr mewn 154 o siopau Claire's yn y DU ac Iwerddon mewn perygl. 

Mae pryder hefyd am ddyfodol 1,220 o swyddi The Original Factory Shop mewn 140 o'u siopau.  

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Rydym wedi gweithio'n galed i geisio achub y ddau fusnes, ond mae'n anhebygol y gall y ddau fasnachu yn llwyddiannus a gwneud elw eto."

"Yn yr amgylchiadau hynny, galw'r gweinyddwyr yw'r unig opsiwn."

Mae Modella yn gwmni mawr yn y diwydiant manwerthu ym Mhrydain, wedi iddyn nhw brynu WH Smith y llynedd a chwmni Hobbycraft yn 2024.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.