Gwaith o chwilio am ddyn yn Afon Teifi yn dod i ben ar ddiwedd ail ddiwrnod
Mae'r gwaith o chwilio am ddyn yn Afon Teifi wedi dod i ben yn dilyn ail ddiwrnod yr ymgyrch, gyda disgwyl i'r gwaith ail-ddechrau fore Mawrth.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw a gwasanaethau eraill, gan gynnwys y Gwasanaeth Tân, Gwylwyr y Glannau a'r Bad Achub, wedi bod yn chwilio yn yr afon ers iddyn nhw dderbyn adroddiad am tua 05.15 fore Sul bod dyn wedi mynd i'r dŵr yn Aberteifi.
Er gwaethaf y chwilio, dywedodd yr heddlu nad yw'r dyn wedi'i ddarganfod.
Mae swyddogion wedi siarad â theulu'r dyn y maent yn credu iddo fynd i'r dŵr, ac maent yn cael eu cefnogi wrth i'r ymgyrch barhau.
Ychwanegodd yr heddlu bod disgwyl i'r chwilio ail-ddechrau ddydd Mawrth.
"Byddwn yn hoffi diolch i'r rhai sydd wedi helpu drwy gydol y dydd, ac rydym yn gofyn i aelodau'r cyhoedd gadw draw o'r ardal - yn enwedig glannau'r afon - er eu diogelwch eu hunain," meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
"Os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai helpu swyddogion, neu os mai chi yw'r person a aeth i'r dŵr ac sydd bellach yn ddiogel, cysylltwch â ni."
Dylai unrhyw un sy'n cysylltu â'r llu ddyfynnu'r cyfeirnod 52 ynghyd â’r dyddiad, 4 Ionawr.

