Cannoedd yn cofio Jay Slater aeth ar goll yn Tenerife yn ei angladd
Roedd hyd at 500 o bobl yn bresenol angladd Jay Slater, y dyn ifan aeth ar goll yn Tenerife am fis, ddydd Sadwrn.
Cafodd y gwasanaeth ei chynnal mewn capel yn Amlosgfa Accrington gyda nifer o'i deulu a'i ffrindiau yn gwisgo crysau gyda 'Forever 19' ar y blaen.
Bu farw'r dyn ifanc o Oswaldtwistle, Sir Gaerhirfryn tra ar wyliau ar yr ynys Sbaenaidd. Cafodd gweddillion dynol eu darganfod mis ar ôl iddo ddiflannu.
Dywedodd cyfarwyddwr yr angladd, Sarah Barton fod Jay wedi cyffwrdd bywydau cymaint o bobl.
"Rydym yn gwybod bod Jay wedi cyffwrdd bywydau gymaint o bobl, ac ar ran y teulu hoffaf ddiolch y rhai sydd wedi danfon negeseuon twymgalon iddyn nhw i'w helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn," meddai.
"Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi helpu dod â Jay nôl yn ddiogel i ni, ei deulu a'i ffrindiau."
Ar ôl gadael gŵyl gerddoriaeth NRG yng nghlwb nos Papagayo, aeth Jay Slater i mewn i gar gyda dau ddyn roedd wedi eu cyfarfod, gan deithio i ardal y parc cenedlaethol yng ngogledd-orllewin Tenerife.
Y bore canlynol, cafodd ei weld yn gofyn am amseroedd bws mewn pentref anghysbell, cyn iddo ddechrau cerdded oddi yno.
Roedd archwiliad post-mortem wedi canfod bod y bachgen 19 oed wedi marw o anafiadau i'w ben wedi iddo gwympo o uchder.
Gwrandawodd mam Jay, Debbie Duncan, ei dad Warren Slater, a’i frawd hŷn, Zak, ar atgofion o gampau pêl-droed iau Jay yn Huncoat United, lle chwaraeodd nes ei fod yn 17 oed.
Mewn teyrnged a ddarllenwyd i’r gwasanaeth, dywedodd rheolwr Huncoat United, Stuart Holt: “Cwrddais â Jay gyntaf pan oedd yn chwe blwydd oed pan ddaeth Debbie ag ef i’w sesiwn hyfforddi pêl-droed gyntaf.
“Ni allaf gofio un digwyddiad yn ystod y 10 tymor hynny lle bu iddo wrthdaro gyda chyd-chwaraewr neu wrthwynebydd.
"Byddai'n cyrraedd - fel arfer ar y funud olaf oherwydd ei fod yn hoffi ei gwsg - a bob amser yn chwarae gyda gwên ar ei wyneb ac yn hapus gyda'r bêl wrth ei draed.
“Fyddech chi ddim yn dod o hyd i gyd-chwaraewr gyda gair drwg i'w ddweud am Jay. Dim ond parch ac anwyldeb.”
Llun: PA