Newyddion S4C

Cyflog Huw Edwards yn ‘anfoesol’ meddai teulu person ifanc

10/08/2024
Huw Edwards

Mae teulu person ifanc sy’n honni iddo gael ei dalu am luniau rhywiol gan Huw Edwards wedi dweud bod y ffaith iddo dderbyn cyflog ar ôl cael ei arestio yn “anfoesol”.

Ddydd Gwener, dywedodd y gorfforaeth fod bwrdd y BBC wedi gofyn i’r cyn-ddarlledwr 62 oed ddychwelyd mwy na £200,000 o’i dal rhwng y cyfnod y cafodd ei arestio a’i ymddiswyddiad.

Pleidiodd Huw Edwards yn euog i dderbyn delweddau anweddus o blant yn Llys Ynadon Westminster yr wythnos diwethaf.

Y llynedd, mewn honiad ar wahân yn y Sun, cyhuddwyd Edwards o dalu person ifanc £35,000 am luniau. Dyw hunaniaeth na rhyw yr unigolyn heb eu datgelu.

Cwynodd teulu’r person ifanc dienw i’r BBC yn wreiddiol ym mis Mai 2023, ac ymddiheurodd y gorfforaeth yn gynharach eleni am y modd yr ymdriniwyd â’r gŵyn.

Dywedodd llystad y person ifanc wrth rifyn dydd Sadwrn o’r Sun: “Ni ddylai fod wedi cael ei dalu pan gafodd ei atal o’i waith, heb sôn am gael ei dalu am bum mis ar ôl iddyn nhw wybod ei fod wedi cael ei arestio.

“Mae'n anfoesol. Dydw i ddim yn meddwl y bydd yn fodlon ei dalu’n ôl serch hynny.”

Pleidiodd Huw Edwards yn euog i chwe delwedd categori A, 12 delwedd categori B a 19 delwedd categori C ar WhatsApp.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Westminster ar 16 Medi.

Yr wythnos hon cafodd wybod ei fod wedi ei ddiarddel o’r Orsedd a Llys yr Eisteddfod.

Mae wedi ymddiswyddo o swyddi er anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd yn ogystal.

Mae Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cerdd a Drama hefyd wedi cyhoeddi datganiadau yn dweud eu bod nhw wedi dod a’i gymrodoriaethau i ben.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.