Newyddion S4C

Eden yn paratoi i gloi’r arlwy ar noson olaf yr Eisteddfod Genedlaethol

Eden

Bydd band Eden yn cloi’r arlwy ar Lwyfan y Maes nos Sadwrn gan obeithio denu miloedd o’u cefnogwyr i Barc Ynysangharad ym Mhontypridd. 

Bydd set Eden - Emma Walford, Non Parry a Rachael Solomon - yn cynnwys hen ffefrynnau yn ogystal â nifer o ganeuon o’u halbwm newydd hyd llawn cyntaf ers 1999, 'Heddiw', medden nhw.

Mae Eden wedi hen arfer â pherfformio ar lwyfannau’r Eisteddfod, gan ymddangos am y tro cyntaf ym Maes B ’nôl yn 1997 yn y Bala. 

Roedd cyfle i’w gweld eto yn Ynys Môn 20 mlynedd yn ddiweddarach, ac yna, cawson nhw gyfle i fod yn rhan o Gig y Pafiliwn yn Sir Conwy gyda Diffiniad a Lleden. 

Mae’r tair yn edrych ymlaen at ddychwelyd i lwyfan mwyaf Cymru, ac meddai Emma: “Dyma fydd penllanw cyfres o berfformiadau dros yr haf. 

“Byddwn wedi ymddangos yn Tafwyl yng Nghaerdydd, Sesiwn Fawr Dolgellau ac Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn.” 

‘Neges bwydig’

Bu’r tair yn canu gyda’i gilydd ers dyddiau ysgol yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Dechreuodd y grŵp pan oedden nhw’n canu lleisiau cefndir i Caryl Parry Jones, cyn cael cynnig cytundeb gan Sain a rhyddhau eu halbwm cyntaf, ‘Paid â Bod Ofn’. 

Gyda’u caneuon bachog, harmonïau a symudiadau slic daeth Eden yn boblogaidd gan apelio at gefnogwyr o bob oed ac ymddangos ar S4C yn rheolaidd. 

Rhyddhawyd eu hail albwm, ‘Yn ôl i Eden’, yn 1999 ac yna rhyddhawyd senglau yn 2003, 2017 a 2021. 

Cafodd yr albwm newydd ei ryddhau yn dilyn cyhoeddi pedair sengl yn gynharach eleni. 

Cafodd ‘Heddiw’ ei gynhyrchu gan Mark Elliot a Rich James Roberts, a chafodd ei gyfansoddi dros gyfnod o flwyddyn gan Caryl Parry Jones, Mark Elliot, Rich James Roberts, Ifan Siôn Davies ac Yws Gwynedd. 

Dywedodd Non fod gan Eden weledigaeth glir a chryf ar gyfer creu casgliad o ganeuon.

“Rhoddwyd yr albwm at ei gilydd yn ofalus iawn,” meddai. 

“Mae neges bwysig i ni ym mhob cân, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y cyfan yn atseinio gyda’r gwrandawyr.”

Gyda’r ethos yma’n flaenoriaeth mae’r grŵp hefyd wedi lansio PABO, menter sy’n anelu at ddysgu a deall pob agwedd ar fod yn ddynol. 

Ychwanegodd Emma: “Mae ‘Heddiw’ yn deitl perffaith i’r albwm gan mai dyma lle rydyn ni fel band ac fel ffrindiau heddiw. 

“Ychydig yn hŷn ac yn fwy doeth, gobeithio, ond yn sicr yn barod i ddathlu a pharhau i wneud yr hyn rydyn ni’n ei garu drwy ein cerddoriaeth a’r platfform PABO sef gwneud i bobl fwynhau a theimlo’n sbesial!”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.