Porthmadog: Galw am wybodaeth am hanes llong ymgyrch D-Day
Mae hanesydd yn galw am wybodaeth am long oedd ym mhorthladd Porthmadog a chwaraeodd ran yn ymgyrch filwrol yr Ail Ryfel Byd.
Nid oes llawer o wybodaeth am hanes SS Florence Cooke, neu'r 'Florrie' rhwng mis Mai a Hydref 1944.
Bryd hynny roedd y llong yn cario ffrwydron ac arfau rhyfel.
Wedi ei gofrestru yn Sunderland dan gwmni Cookes Explosives Ltd, roedd yn aml yn ymweld â phorthladd Porthmadog gan fod gan y cwmni depo ym Mhenrhyndeudraeth.
Y gred yw bod yr SS Florence Cooke wedi chwarae rhan mewn ymgyrchoedd yn yr Ail Ryfel Byd ac yn rhan o ymgyrch D-Day, meddai Amgueddfa Forwrol Porthmadog.
Yn gadeirydd cangen gogledd Cymru Cymdeithas y Llynges Fasnachol, mae gan Capten Dave Creamer o Benrhyndeudraeth ddiddordeb mawr yn hanes y llong.
"Mae gan nifer o bobl yn ardal Porthmadog a thu hwnt atgofion melys o'r Florrie - roedd hi'n long adnabyddus," meddai.
“Ond mae'n ymddangos fod ychydig iawn o wybodaeth os o gwbl amdani rhwng Mai a Hydref 1944, sydd yn ddirgelwch.
“Naill ai doedd y cyfnod hwnnw ddim wedi ei gofnodi, a dydw i ddim yn meddwl mai dyna sydd wedi digwydd, neu byddan nhw ddim yn cael eu cyhoeddi tan i amser penodol fynd heibio, dydyn ni ddim yn gwybod."
Dywedodd Capten Creamer bod y Florrie yn rhan o Operation Neptune, sef ymgyrch D-Day.
Dyma oedd glaniadau milwyr Canada, Prydain a'r Unol Daleithiau ar draethau yng ngogledd Ffrainc, oedd dan feddiant Yr Almaen yn 1944.
"Dwi'n gwybod bod Florrie yn rhan o grŵp 'Gwasanaethau Arbennig' ar D-Day, ond yn ddiddorol nid oes sôn amdani yn yr un o'r llyfrau am y llongau oedd yn rhan o D-Day," meddai Capten Creamer.
"Mae darnau o bapur newydd yn Amgueddfa Forwrol Porthmadog yn nodi bod y Florrie yn cyflenwi bwledi i longau oedd yn brwydro ar arfordir Ffrainc yn ystod y glaniadau."
Mae cangen gogledd Cymru Cymdeithas y Llynges Fasnachol, sydd wedi’i lleoli yn Llandudno, yn gobeithio gwahodd cyn-filwyr a gymerodd ran yn D-Day – neu eu teuluoedd, i’w gwahodd i wasanaeth arbennig yng Nghofeb Ryfel Llandudno ddydd Sul, Medi 1af.
Gobaith Capten Creamer yw y bydd gan rywun yno fwy o wybodaeth am hanes y llong.
"Mae'n ddirgelwch, ac rydym ni'n ysu i ddarganfod mwy, os ydy unrhyw yn gallu helpu llenwi'r bylchau neu fod ganddyn nhw atofion o'r cwch, cysylltwch â ni," meddai.
"Os all unrhyw un helpu ni darganfod criw'r llong neu eu teuluoedd, hoffwn eu gwahodd nhw i'n gwasanaeth ar 1 Medi."