Newyddion S4C

'Pryderus': Grŵp gwrth-niwclear yn beirniadu ymgynghoriad ar ddymchwel rhan o hen atomfa Trawsfynydd

trawsfynydd

Mae grŵp gwrth-niwclear wedi beirniadu ymgynghoriad ar ddymchwel rhan o hen atomfa Trawsfynydd gan ddweud ei fod yn "rhy fyr, wedi ei gynnal ar yr adeg anghywir ac yn drwsgl."

Mae’r ymgynghoriad yn ymwneud â chynigion ar gyfer newidiadau i drwydded ar gyfer y gwaith o ddatgomisiynu hen orsaf bŵer niwclear Trawsfynydd.

Cafodd yr ymgynghoriad bedair wythnos o hyd ei gynnal gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ôl i gwmni Nuclear Restoration Services Limited (NRS) ddweud eu bod nhw eisiau "amrywio" trwydded amgylcheddol yr orsaf yng Ngwynedd a gaeodd yn 1991.

Fel rhan o'u cais i CNC mae NRS eisiau dymchwel, mewnlenwi a chapio adeiladau pyllau oeri Trawsfynydd, sef cyfres o adeiladau sydd wedi’u lleoli ochr yn ochr â dau adeilad yr adweithyddion.

Mae gan y pyllau oeri a'r celloedd storio cyfagos i'r orsaf strwythurau tebyg i flychau o dan y ddaear yn cynnwys gwagleoedd hyd at chwe metr o ddyfnder sydd tua 5,000 metr ciwbig i gyd.

Bydd dymchwel strwythurau concrid y pyllau sydd uwchlaw’r ddaear yn arwain at lenwi'r gwagle â choncrit sy’n cynnwys rhywfaint o ymbelydredd.

Pryder

Dywedodd grŵp Nuclear Free Local Authorities eu bod nhw'n gwerthwynebu y newid.

Maen nhw'n "parhau i bryderu" dros bosibilrwydd y bydd "lefelau isel o ymbelydredd" yn "halogi" Llyn Trawsfynydd, medden nhw.

Ychwanegodd y grŵp fod yr ymgynghoriad hyd bedair wythnos, a ddaeth i ben ar 6 Awst ddim yn gyfnod digon hir i bobl ymateb, a'u bod nhw wedi gorfod talu am rai dogfennau.

Mae cyfnod arferol ar gyfer ymgynghoriad oedd fath tua 12 wythnos, medden nhw.

“Mae ymgynghoriad pedair wythnos gyda’r bwriad o geisio sylwadau gan y cyhoedd a’r gymdeithas sifil yn ystod misoedd yr haf yn rhy fyr ac wedi'i amseru'n wael," meddai ysgrifenydd y grŵp, Richard Outram.

“Mae’n debygol na fydd gan lawer o bobl digon o amser i ddod yn ymwybodol o’r cynnig, dod o hyd i’r dogfennau ymgynghori a’u darllen, a llunio ymateb.

“Gwnaeth CNC bethau’n waeth hefyd drwy fethu â chyhoeddi’r holl ddogfennau yn ymwneud â’r ymgynghoriad ar eu gwefan; yn lle hynny bu'n rhaid i bobl â diddordeb ffonio, neu e-bostio i'w cael ar ôl oedi anochel.

“Mae’r NFLA yn bryderus y bydd hwn yn ateb hirdymor annigonol.”

'Iach'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym yn gwerthfawrogi’r adborth yn dilyn y cyfnod ymgynghori ffurfiol ar gyfer y cais hwn i amrywio’r drwydded rhwng 9 Gorffennaf a 6 Awst.

“Rydym yn parhau i groesawu gohebiaeth ac adborth wrth i ni barhau i benderfynu ar y cais.

“Roedd y dogfennau mwyaf perthnasol ar gael ar-lein yn ein parth ymgynghori a gallai’r set lawn o ddogfennau technegol fod ar gael ar-lein ar gais drwy ein tîm trwyddedu.

“Codwyd tâl bychan am gopïau papur o’r dogfennau nad oeddent yn cael eu cynnwys ar ein parth ymgynghori.

“Fel rheoleiddiwr y cais hwn, rydym wedi ymrwymo i gadw’r gymuned a’r amgylchedd yn iach.

“Byddwn yn ymgynghori ag amrywiaeth o arbenigwyr, gan gynnwys y rhai yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, drwy gydol y cais, sy’n gorfod bodloni ein safonau diogelwch ac amgylcheddol os yw am gael ei gymeradwyo.

“Unwaith y bydd y cam penderfynu wedi’i gwblhau, byddwn yn cyfleu ein penderfyniad drafft a bydd ymgynghoriad pellach ar hyn o bryd.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.