'Tua 100' wedi eu lladd wrth i Israel daro ysgol yn Ninas Gaza
Mae asiantaeth amddiffyn Gaza yn dweud bod tua 100 o bobol wedi cael eu lladd mewn cyrch awyr gan Israel ar ysgol yn Ninas Gaza.
Yn ôl yr asiantaeth sy’n cael ei rheoli gan Hamas fe wnaeth tair roced daro’r ysgol sy’n cael ei defnyddio fel lloches i ddinasyddion sydd wedi ffoi.
Mae byddin Israel yn dweud eu bod nhw’n targedu canolfan reoli Hamas o fewn yr adeilad.
Dywedodd llefarydd ar ran Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) fod ysgol al-Taba’een “yn gwasanaethu fel cyfleuster milwrol gweithredol Hamas” gyda thua 20 o “filwriaethwyr” yn gweithredu yno.
Dywedodd llefarydd ar ran asiantaeth amddiffyn sifil Gaza, Mahmud Bassal, fod o leiaf 90 o bobl wedi eu lladd a dwsinau wedi eu hanafu a’i fod yn “gyflafan erchyll’”.
Ni yw’r ffigyrau wedi eu gwirio’n annibynnol.
Dywedodd yr IDF nad yw’r ffigyrau anafiadau a gyhoeddwyd gan swyddogion Hamas “yn cyd-fynd â’r wybodaeth sydd gan yr IDF, yr union arfau rhyfel a ddefnyddiwyd, a chywirdeb y streic”.