Newyddion S4C

Arestio dyn wedi i ddyn arall ddioddef anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad ar yr A470

10/08/2024
A470

Mae’r heddlu wedi arestio dyn 23 oed wedi i ddyn arall ddioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad ar yr A470.

Digwyddodd y gwrthdrawiad un cerbyd rhwng Rhaeadr Gwy a Llangurig am 1.30 ddydd Mawrth.

Wedi’r gwrthdrawiad oedd yn ymwneud â Volvo estate gwyrdd cafodd un dyn ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol ac mae’n parhau mewn cyflwr argyfyngus.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua milltir i’r gogledd o Raeadr Gwy, meddai Heddlu Dyfed Powys.

“Mae un dyn, 23 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o yrru tra oedd dros y terfyn penodedig ac achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus,” medden nhw.

“Hoffai swyddogion siarad ag unrhyw fodurwyr a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A470-Rhaeadr i Langurig bryd hynny sydd â chamera cerbyd yn eu cerbydau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.