Newyddion S4C

Un o sylfaenwyr MônFM, Tony Wyn Jones wedi marw

10/08/2024
Tony Wyn Jones

Mae un o sylfaenwyr gorsaf radio MônFM, Tony Wyn Jones wedi marw.

"Gyda thristwch mawr rydym yn rhannu’r newyddion am farwolaeth ein cadeirydd, Tony Wyn Jones," meddia'r orsaf mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Fel aelod sylfaenol o MônFM, roedd Tony yn un o’n gwirfoddolwyr mwyaf ymroddedig a hir dymor."

Wedi iddo helpu sefydlu'r orsaf radio roedd Tony Wyn Jones yn gweithio fel dirprwy gadeirydd am nifer o flynyddoedd cyn dod yn gadeirydd yn 2016.

Roedd hefyd yn gyflwynydd ac yn cydlynnu rhaglenni'r orsaf.

'Ymrwymiad diderfyn'

Dywedodd Môn FM fod ei gyfraniad i'r orsaf ac i'r ardal yn "hanfodol".

"Chwaraeodd ran allweddol yn ehangu ardal darlledu MônFM, datblygu syniadau ar gyfer sioeau newydd, a sicrhau nawdd masnachol a grantiau sydd wedi bod yn hanfodol i gadw'r orsaf ar yr awyr," medden nhw.

"Roedd ymrwymiad Tony i MônFM yn ddiderfyn. Boed yn mynychu digwyddiadau lleol, yn cyflwyno sioeau radio, neu'n ymweld â safleoedd trosglwyddo yng nghanol y nos, roedd o bob amser yn barod i fynd y cam pellaf i sicrhau ein bod yn parhau i ddarlledu.

"Roedd yn fwy na dim ond ein cadeirydd; roedd yn ffrind, yn fentor ac yn arweinydd. Bydd ei golled yn cael ei deimlo’n ddwys gan bawb ohonom.

"Mae tîm cyfan MônFM yn estyn ein cydymdeimladau diffuant â theulu a ffrindiau Tony yn ystod yr amser anodd hwn."

Ar wefan X dywedodd y cyflwynydd Gareth Joy mai Tony Wyn Jones oedd "Mr FônFM".

"Mae’n drist iawn i orfod dweud wrthych fod fy ffrind a’m cydweithiwr, Tony Jones, wedi marw.

"Yn syml iawn, fo oedd Mr MonFM Radio a'r cefnogwr gorau y gallech chi ddymuno amdano.

"Diwrnod trist iawn i bob un ohonom sy'n credu mewn radio lleol yng Nghymru. Cysg yn iach, Tony - diolch."

Llun: MônFM

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.