Yr heddlu yn chwilio am berson ar goll ger Y Trallwng
09/08/2024
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn chwilio am berson sydd ar goll ger Y Trallwng.
Dywedodd y llu eu bod yn chwilio am berson ar goll yn yr Afon Hafren ger Y Trallwng, ar ôl derbyn adroddiadau ychydig cyn 16:40.
Mae timoedd arbenigol ar hyn o bryd yn chwilio yn yr afon, gyda Gwylwyr y Glannau a'r Gwasanaeth Tân hefyd yn cynorthwyo ymdrechion.
Maent yn cynghori'r cyhoedd i osgoi'r ardal.