Newyddion S4C

Aflonyddu rhywiol: Galw ar Senedd Cymru i wella’r system gwynion ‘ar frys’ o fewn y sefydliad

10/08/2024

Aflonyddu rhywiol: Galw ar Senedd Cymru i wella’r system gwynion ‘ar frys’ o fewn y sefydliad

Mae angen i Senedd Cymru weithredu "ar frys" i wella’r system gwynion ar gyfer achosion o aflonyddu rhywiol o fewn y sefydliad, yn ôl cyn-Aelod Seneddol.

Wrth siarad ar faes Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, dywedodd Nerys Evans wrth Newyddion S4C nad yw’r system bresennol o ddelio gyda chwynion yn erbyn Aelodau Seneddol yn dderbyniol.

Yn ôl Ms Evans, a oedd yn gyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru, mae'r system “ddiffygiol” yn rhwystro menywod rhag gwneud cwyn.

“Dw i’n gwybod yn bersonol bod degau a degau o ferched sydd wedi profi aflonyddu rhywiol yn y Senedd ddim wedi defnyddio’r system gwynion,” meddai.

“Dim ond un achos yn erbyn gwleidydd sydd wedi bod mewn 25 mlynedd.”

Ar hyn o bryd, nid oes gan y Senedd system gwynion yn benodol ar gyfer achosion o aflonyddu rhywiol.

Ychwanegodd Ms Evans: “Fi’n credu bod rhyw fath o falchder bod diffyg cwynion ond dydy hwnna ddim yn realiti.

“Staff sydd ddim gyda hyder yn y system i ddod â chwynion ymlaen.”

Dywedodd llefarydd ar ran Senedd Cymru eu bod eisiau creu amgylchedd “lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu” ond eu bod yn cydnabod bod “gwaith i’w wneud o hyd i gyflawni hyn”.

Daw'r alwad wedi i'r cyn-AS, Rhys ab Owen, gael ei wahardd o'r Senedd am chwe wythnos ar ôl i ymchwiliad ganfod ei fod wedi cyffwrdd yn amhriodol a rhegi ar ddwy ddynes. Mae bellach wedi ei ddiarddel o Blaid Cymru.

‘Testun pryder’

Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd eisoes yn cynnal adolygiad o brosesau Urddas a Pharch y Senedd.

Mae'n cynnwys adolygiad o’r weithdrefn gwyno ac asesiad o faterion ynghylch cyflwyno mecanwaith adalw ar gyfer Aelodau sy’n torri’r rheolau. 

Ond mae Ms Evans wedi dweud bod angen cyflymu’r adolygiad er mwyn cael atebion cyn Etholiad 2026.

“Mae merched ifanc yn y Senedd ar hyn o bryd gyda phrofiadau o aflonyddu rhywiol a ddim gyda hyder i godi cwynion, felly ni methu aros blwyddyn a hanner arall," meddai Ms Evans, sydd bellach yn gyfarwyddwr ar asiantaeth materion cyhoeddus Deryn.

“Fydden i’n argymell bod angen i Gomisiwn y Senedd a Phwyllgor Safonau’r Senedd i fwrw ymlaen gyda’r gwaith ar frys.”

Dywedodd Vikki Howells AS, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, bod gweithdrefnau presennol y Senedd o ran safonau “ar fin cael eu hadolygu”.

Ond mae'r Pwyllgor wedi dweud ei fod yn benderfynol o “gwblhau’r gwaith yn drylwyr” er gwaethaf y pwysau i weithredu ar frys.

Gobaith Ms Evans yw y bydd y Senedd yn cyflwyno system gwynion benodol.

“Mae angen newid y system i gael system cwynion penodol ar gyfer aflonyddu rhywiol gydag arbenigedd o bobl sy’n delio â’r cwynion,” meddai.

“Ond nid ydy hwnna mewn lle ar hyn o bryd, sy’n destun pryder mawr.”

Beth yw aflonyddu rhywiol?

Aflonyddu rhywiol yw unrhyw ymddygiad digroeso o natur rywiol a all achosi tramgwydd neu ofid neu a fydd yn bygwth neu’n bychanu person.

Mae sawl math o aflonyddu rhywiol, gan gynnwys gwneud sylwadau neu ystumiau rhywiol diraddiol, jocs neu gynigion rhywiol digroeso neu amhriodol a chynigion rhywiol a chyffwrdd digroeso yn ogystal â mathau o ymosodiad rhywiol.

Yn ôl ymchwil diweddar gan UN Women UK, mae 97% o fenywod o dan 30 oed wedi profi aflonyddu rhywiol.

Er bod aflonyddu rhywiol yn digwydd mewn gwahanol weithleoedd, mae Ms Evans yn credu y dylai Senedd Cymru "osod esiampl" o ran safonau.

“Mae angen i Senedd Cymru osod esiampl, mae’n broblematic nad oes system cwynion digonol ar gyfer aflonyddu rhywiol na bwlio yn y Senedd,” meddai.

“Ac mae’n eithaf rhagrithiol wrth i’r Senedd sgrwtineiddio mudiadau gwahanol am eu diffyg ymateb i aflonyddu rhywiol gyda diffygion eu hunain.”

O fis Hydref, bydd dyletswydd newydd ar gyflogwyr i gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol.

Ac mae TUC Cymru eisoes wedi creu pecyn cymorth i helpu dioddefwyr mewn gweithleoedd ar draws Cymru.

Ond boed yr aflonyddu'n digwydd yn y gweithle ai peidio, mae Ms Evans yn annog dioddefwyr i siarad.

“Fyddwn i’n cynghori pobl i siarad gyda’u teulu a’i ffrindiau, codi cwyn os maen nhw’n teimlo’n ddigon hyderus i wneud hynny,” meddai.

“Ond yn fwy na hynny, siarad am y peth, achos wrth siarad ‘da ni’n dod i ddeall maint y broblem ac yn gallu cael cefnogaeth gan eraill wrth wneud hynny.”

Ymateb Senedd Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd: “Rydym eisiau creu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu, ond rydym yn cydnabod bod gwaith i’w wneud o hyd i gyflawni hyn.

“Mae’r Pwyllgor Safonau yn arwain adolygiad eang o’r prosesau presennol. Er ein bod yn deall fod angen gweithredu ar frys, mae'r Pwyllgor wedi dweud ei fod yn benderfynol o gwblhau’r gwaith yn drylwyr. 

“Rydym yn parhau i wella ymdrechion i godi ymwybyddiaeth staff o’r prosesau urddas a pharch presennol – gan gynnwys cwblhau hyfforddiant i’r holl Aelodau a chyflwyno hyfforddiant i’w staff. Rydym hefyd wedi penodi naw swyddog cyswllt urddas a pharch ychwanegol, y gall staff ofyn am gyngor a chymorth ganddynt yn gyfrinachol.”

Dywedodd Vikki Howells AS, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: “Mae ymddiriedaeth mewn gwleidyddion ar ei lefel isaf erioed, a bu hynny’n destun trafodaeth eang yn ystod y misoedd diwethaf. 

"Fel Senedd, mae'n ddyletswydd arnom i wneud popeth o fewn ein gallu i feithrin a chynnal ymddiriedaeth pobl ynom. Caiff llawer o'r gwaith adfer hwn ei wneud drwy ein gweithredoedd, a'r ffordd yr ydym yn ymddwyn.  

“Ry’n ni wedi clywed adborth uchel a chlir am ein polisïau a’n gweithdrefnau presennol o ran safonau, ac yn gwybod eu bod ar fin cael eu hadolygu.  

“Fel Pwyllgor, ry’n ni’n benderfynol o gael hyn yn iawn ar gyfer y dyfodol, a thrwy ein hadolygiad eang fe fyddwn ni’n gwrando ar arbenigwyr yn y maes hwn, ac ar y cyhoedd, wrth i ni ddatblygu argymhellion ar gyfer newidiadau. 

“Mae’n rhaid trin pawb gydag urddas a pharch, ac mae’n rhaid i Aelodau o’r Senedd lynu at y safonau ymddygiad pennaf er mwyn i bobl Cymru barhau i fod â ffydd yn ein Senedd.

“Fe fyddwn ni’n chwarae ein rhan i sicrhau bod ein systemau yn rhai cryf, yn deg ac yn annibynnol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.