Newyddion S4C

Carchar i ddyn o Geredigion am droseddau terfysgol

09/08/2024
Gareth Waite

Mae dyn o Aberteifi wedi derbyn dedfryd o garchar am ei ran mewn troseddau terfysgol.

Cafodd Gareth Waite, 47 oed, ddedfryd o naw mlynedd a naw mis yn y carchar yn Llys y Goron Woolwich.

Yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Gwrthderfysgaeth Cymru, fe gafwyd Waite yn euog o bedwar cyfrif o ledaenu negeseuon terfysgol, a dau gyhuddiad o fod â deunydd yn ei feddiant gyda'r bwriad o baratoi gweithred derfysgol.

Roedd Waite eisoes wedi pledio’n euog i gefnogi sefydliad National Action, sefydliad sydd wedi ei ddynodi ar restr o sefydliadau terfysgol yn DU.

Dywedodd DCI Leanne Williams, Pennaeth Ymchwiliadau Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru: “Rydym yn croesawu’r ddedfryd a roddwyd gan y llys heddiw. 

“Mae hyn yn cloi ymchwiliad manwl, trylwyr a chymhleth dros fisoedd lawer gan swyddogion o CTP Cymru, gyda chymorth cydweithwyr yn Heddlu Dyfed Powys.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.