Newyddion S4C

Cowbois Rhos Botwnnog yn ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024

Cowbois Rhos Botwnnog / Steddfod

Cowbois Rhos Botwnnog yw enillwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024 am eu halbwm, ‘Mynd â’r tŷ am Dro’

Dyma chweched record hir y band, o ardal Botwnnog ym Mhen Llŷn, gyda'r arddull yn parhau i arbrofi gyda cherddoriaeth werin, gwlad a roc amgen.

Cafodd yr albwm ei recordio yn Stiwdio Sain, Llandwrog, gyda thri brawd sydd yn y band, Iwan, Aled a Dafydd Hughes yn ei chynhyrchu eu hunain.

Mae Iwan Huws, lleisydd y band, yn gwella ar ôl gael ei daro’n wael wrth berfformio mewn cyngerdd yng ngŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau fis diwethaf.

Mae’r band wedi cadarnhau yn ddiweddarach eu bod wedi gohirio pob sioe dros y misoedd nesaf.

Nid oedd Iwan Huws yn bresennol i dderbyn y wobr yn y pafiliwn ddydd Gwener, ond fe wnaeth ei fab, Now, ymuno â gweddill y band ar y llwyfan.

Fe wnaeth Llywydd y Llys, Ashok Ahir gyflwyno tlws a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y wobr eleni gan Tony Thomas, crefftwr yr Eisteddfod Genedlaethol, i’r band.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.